Y ras i Rif 10: Ymgeiswyr yn dadlau dros drethi a chynlluniau gwariant

The Independent 16/07/2022
Ymgesiwyr am swydd y prif weinidog

Mae ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Geidwadol a swydd Prif Weinidog y DU wedi cymryd rhan mewn dadl deledu fyw ar Channel 4 nos Wener.

Yn y ddadl, roedd y pum ymgeisydd wedi dadlau dros gyfnod Boris Johnson wrth y llyw, cynlluniau ar gyfer gwariant y wlad yn y dyfodol, costau byw, trethi, hawliau dynol ac ymddiriedaeth mewn gwleidyddion.

Fe aeth y ddadl ymlaen am 90 munud

Dyma’r gyntaf o ddwy ddadl fydd yn cael eu cynnal dros y penwythnos.

Bydd y rownd nesaf o bleidleisiau yn digwydd ddydd Lun.

Yn parhau yn y ras mae:
•Rishi Sunak
•Penny Mordaunt
•Liz Truss
•Kemi Badenoch
•Tom Tugendhat

Darllenwch fwy yma.

Llun: Channel 4

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.