Y Sioe Frenhinol yn dychwelyd ar ôl y pandemig
Mae amaethyddwyr ledled Cymru yn croesawu Y Sioe Frenhinol yn ôl am y tro cyntaf ers y pandemig ddydd Llun.
Mae'r Sioe yn un o'r sioeau amaethyddol enwocaf y byd ac fel arfer yn denu tua 250,000 o ymwelwyr pob blwyddyn.
Ond mae'r padogau wedi bod yn wag am y ddwy flynedd diwethaf yn sgil cyfyngiadau Covid-19.
Bellach mae trefnwyr y Sioe yn edrych ymlaen i groesawu cystadleuwyr ac ymwelwyr yn ôl i'r maes yn Llanelwedd.
Mae disgwyl i dros 7,500 o anifeiliaid o Gymru, Ewrop a gweddill y byd gymryd rhan ar draws pedwar diwrnod o gystadlu.
Mae'r sioe hefyd yn cynnig amryw o weithgareddau tu hwnt i'r cystadlaethau amaethyddol gan gynnwys crefftau, campau cefn gwlad a nifer o stondinau bwyd a diod.
Er y cyffro ynglŷn â'r sioe yn dychwelyd, mae yna rybuddion i ymwelwyr gymryd gofal yn sgil Rhybudd Tywydd Oren am wres eithafol ddydd Llun a dydd Mawrth.
Mae'r Sioe wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol i ddiogelu ymwelwyr ac anifeiliaid gan gynnwys cyfleusterau dŵr ychwanegol a mannau eistedd o dan do er mwyn i bobl gysgodi.