Joe Allen: 'Gwych i fod adref' ar ôl arwyddo i Abertawe

Joe Allen: 'Gwych i fod adref' ar ôl arwyddo i Abertawe
Mae Joe Allen wedi dweud ei bod hi'n "wych i fod 'nôl adref" ar ôl iddo arwyddo i Abertawe.
Fe ddechreuodd ei yrfa yn Abertawe yn 2007 cyn symud i Lerpwl yn 2012.
Mae Allen newydd ddychwelyd i Abertawe o Stoke City, wrth i'w olygon hefyd droi at gynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn yr hydref.
"Tywydd gwych, ar lan y môr, sim llawer o llefydd gallech chi bod yn y byd sy'n well 'na hwn," dywedodd Allen wrth Heno.
Dywedodd fod y penderfyniad i ddychwelyd i Abertawe yn teimlo'n un naturiol iddo.
"O'dd e'n rhwbeth o'dd yn ticio bob bocs o ran y pêl-droed sydd yn bwysig wrth gwrs, hanes fi gyda'r clwb, ffordd mae'r rheolwr a'r tîm eisiau chwarae, y potensial sydd ar gael," meddai.
"Ond hefyd, wrth gwrs, mae'n gwych i teulu a ffrindiau fi hefyd i cael fi 'nôl hefyd ac o ran popeth yn fy mywyd, mae'n peth gwych."