Newyddion S4C

Eisteddfod Powys yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed

Eisteddfod Powys yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed

Newyddion S4C 15/07/2022

Wrth i'r cyffro gynyddu ar drothwy Eisteddfod Tregaron ar ddiwedd y mis, mae yna Eisteddfod arall sydd yn hawlio'r sylw dros y penwythnos. 

Fe fydd Eisteddfod Powys yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed, ddwy flynedd yn hwyr oherwydd y pandemig. 

Mae'r ŵyl, sef Eisteddfod hynaf Cymru, yn cael ei chynnal yn y Stiwt yn Rhosllannerchrugog er mwyn dathlu ei daucanmlwyddiant. 

Er bydd nifer o bobl yn cwestiynu pam bod Eisteddfod Powys yn cael ei chynnal yn Rhos, mae'r lleoliad yn hollbwysig ar gyfer y dathliadau eleni. 

Cafodd Eisteddfod Powys ei chynnal am y tro cyntaf yn Wrecsam yn 1820, pan oedd Rhos a Wrecsam yn rhan o'r hen Bowys Fadog. 

Yn ôl y trefnwyr, mae'n fraint i gynnal yr Eisteddfod yn Rhos eleni, gan gydnabod yr hanes tu ôl i'r ŵyl. 

"Tro cyntaf fydd cerrig yr orsedd ar Parc y Ponciau, sydd ryw dafliad carreg o'r Stiwt, wedi cael eu defnyddio ers Eisteddfod Genedlaethol 1961," meddai Geraint Jones, un o'r trefnwyr. 

"Ac odd hi fod yn 2020 yn 200 o flynyddoedd ers yr Eisteddfod cyntaf, ond wrth gwrs Covid ac yn y blaen, a 'da ni dwy flynedd yn hwyr."

Image
Marian Jones a Geraint Jones
Mae trefnwyr Marian Jones a Geraint Jones yn falch o ddod â'r Eisteddfod i Ros.

Er y dathlu o groesawu'r Eisteddfod yn ei hôl, fe fydd y pwyllgor hefyd yn talu teyrnged i'w cadeirydd, Aled Roberts, a fu farw ym mis Chwefror. 

Roedd y diweddar Gomisiynydd y Gymraeg yn rhan allweddol o ddod â'r Eisteddfod i Ros eleni ac fe fydd dathliadau yn cael eu cynnal er cof amdano. 

"Da ni'n edrych ymlaen at gael pawb yma, hyd yn oed os oes 'na ddim gymaint o gystadlu ma'n braf cael popeth yn ôl fel oedden ni wedi bwriadu yn 2020," meddai Marian Jones, aelod arall o'r tîm trefnu.

"Yr unig beth ydy 'da ni wedi colli ein cadeirydd, Aled Roberts, a 'da ni'n i golli o'n fawr.

"Ond 'da ni'n cynnal yr Eisteddfod yma er cof amdano fo ag 'na i byth anghofio'r angladd. Rywun yn deud "Safwn yn y bwlch" felly 'da ni'n sefyll yn y bwlch, ac yn gwneud gwaith dros y Gymraeg, a dros Aled yn yr ardal hon."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.