Academi Ddeintyddol Bangor i agor cyn diwedd y flwyddyn

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cadarnhau bydd Academi Ddeintyddol Newydd yn cael ei sefydlu ym Mangor cyn diwedd y flwyddyn.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cwestiwn i'r gweinidog am wasanaethau deintyddol Gogledd Cymru gan AS Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian.
Wrth ymateb, dywedodd Eluned Morgan y bydd yr academi yn cael ei chwblhau erbyn diwedd yr hydref, a'i bod hi'n obeithiol y bydd yr academi yn dilyn at "welliant arwyddocaol" i fynediad cleifion "yn y dyfodol agos."
Darllenwch fwy yma.