Newyddion S4C

Sut mae cysgu mewn tywydd poeth?

06/09/2023

Sut mae cysgu mewn tywydd poeth?

Gyda'r posibilrwydd y caiff record ei thorri yng Nghymru ganol yr wythnos hon, sef y noson gynhesaf erioed ym mis Medi, yr arbenigwr cwsg Rhian Mills sydd wedi bod yn rhannu tips ar sut i gysgu yn ystod nosweithiau poeth gyda Newyddion S4C.

Mae gan Rhian Mills gwmni o’r enw Rested Mama sy’n helpu plant a babanod i gysgu yn benodol ond mae hi hefyd yn rhoi cyngor i oedolion.

Yn ôl Rhian mae hi’n anoddach syrthio i gysgu mewn gwres poeth gan fod angen gostyngiad yn nhymheredd y corff cyn cysgu.

Image
S4C
Mae Rhian Mills yn arbenigwr cwsg.

“Felly os mae hi’n boeth dydy’r corff ddim yn cael y gostyngiad yna mewn tymheredd ac mae’r corff yn gallu cymryd amser hir i syrthio i gysgu gan leihau’r amser da’ ni’n cysgu dros nos,” meddai.

Mae tymheredd poeth hefyd yn gallu achosi i ni ddeffro yn ystod y nos am gyfnodau hir.

Mae diffyg cwsg yn cael effaith ar iechyd unigolion gan gynyddu’r risg o ganser, clefyd y galon, clefyd y siwgr, gallu corffol a meddylion berson.

Dyma’r rhai o dips gorau Rhian ar gysgu yn ystod y tywydd poeth.

1. Yfed digon

Yn ôl Rhian mae yfed digonedd o ddŵr yn ystod y dydd yn helpu cadw tymheredd y corff yn isel a hydradol.

2. Lleihau tymheredd yr ystafell wely

Mae Rhian yn awgrymu agor y ffenestri a chau’r llenni yn ystod y bore a’r nos pan mae’r tymheredd yn is. Yn ystod y prynhawn mae cau’r ffenestri a’r llenni yn atal aer poeth rhag dod i mewn i’r tŷ. 

Mae defnyddio gwyntyll yn ffordd dda o gael aer oer ar y corff.  

3. Dillad nos addas

Mae gwisgo pyjamas cotwm yn ffordd o gadw’r corff yn “cool”.

Mae Rhian hefyd yn awgrymu i ddefnyddio lliain ysgafn cotwm yn hytrach nag dwfe  trwm yn ystod y nosweithiau poethaf.

4. Bod yn greadigol

Yn ôl Rhian mae rhoi dŵr rhewllyd mewn potel dŵr poeth yn ffordd dda o gadw yn "cool" yn ystod y nos.

Awgrym arall sydd gan Rhian yw rhoi ein sanau yn y rhewgell cyn eu gwisgo i fynd i gysgu i leihau tymheredd y traed.

“Mae tymheredd y traed yn gallu rheoli tymheredd y corff, felly os ydan ni’n oeri traed mae’n helpu gostwng y core body tempreture ‘da ni’n anelu am i helpu ni ddisgyn i gysgu yn gyflymach.”

Gobeithio y bydd tips Rhian yn eich helpu chi i gael nosweithiau da o gwsg yn ystod y cyfnod poeth!

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.