Newyddion S4C

Menyw wnaeth ffoi o Wcráin i Sir Gâr yn rhoi genedigaeth i fabi

ITV Cymru 15/07/2022
Wcráin babi

Mae menyw ifanc wnaeth ffoi i Sir Gaerfyrddin yn sgil y gwrthdaro yn Wcráin wedi rhoi genedigaeth i ferch.

Y gred yw mai Stephania yw’r babi cyntaf o Wcráin i gael ei geni yng Nghymru ers i'r rhyfel ddechrau.

Treuliodd Olha a’i theulu dri diwrnod yn teithio drwy Ewrop yn dianc o’i mamwlad ac mae bellach wedi dechrau bywyd newydd yn Llanymddyfri.

"Bob dydd dwi'n codi ac yn darllen y newyddion, a dwi'n addo i fy hun bydda i'n dechrau byw nawr, ond dwi ddim yn meddwl fy mod i'n byw fy mywyd fel o’n i o’r blaen, a dwi ddim yn gwybod pryd y gwnaf hyn,” meddai Olha. 

Bu'n rhaid i Olha adael ei gŵr yn Wcráin er diogelwch ei theulu, ond mae’n dweud bod ei dwy ferch arall wedi ymgartrefu’n dda yn yr ardal.

“Roedd yn anodd iawn, ond fel mam mae'r cyfan yn ymwneud â diogelwch eich plant," meddai.

“Roedd yn frawychus iawn ac roedd yn arswydus sylweddoli bod hyn yn real.”

Mae'r teulu ymhlith miloedd o bobl o bob rhan o’r wlad sydd wedi dod i Gymru ers i Lywodraeth Cymru lansio ei huchelgais i fod yn “Genedl Noddfa” yn 2019.

Yn ôl y Swyddfa Gartref roedd 82,100 o ffoaduriaid o Wcráin wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig erbyn y 21 Mehefin, 2022.

Cenedl Noddfa yw cynllun i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu croesawi i Gymru beth bynnag eu gorffennol.

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn ei ddisgrifio fel cynllun i ffoaduriaid deimlo’n “ddiogel rhag rhyfel ac erledigaeth".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.