Cyfle i Gymru gipio cyfres yr haf yn Ne Affrica
Cyfle i Gymru gipio cyfres yr haf yn Ne Affrica
Mae cyfle i Gymru gipio cyfres yr haf yn erbyn De Affrica os fydd tîm Wayne Pivac yn ennill yn Cape Town ddydd Sadwrn.
Fe gollodd Gymru'r gêm gyntaf gyda chic ola'r chwarae gan Damian Willemse yn hedfan dros y pyst i sicrhau buddugoliaeth 32-29 i'r Springboks.
Ond fe wnaeth De Affrica newid 14 o'r chwaraewyr ar gyfer yr ail brawf, penderfyniad a brofodd i fod yr un anghywir i'r tîm cartref wrth i'r crysau cochion greu hanes drwy guro De Affrica am y tro cyntaf ar domen eu hunain - gyda chic Gareth Anscombe yn sicrhau'r fuddugoliaeth o 13 pwynt i 12.
Mae'r gyfres yn cael ei phenderfynu yn y prawf olaf pan fydd y ddau dîm yn cwrdd yn Stadiwm DHL.
Mae Cymru wedi gwneud un newid i'r garfan wrth i Josh Adams gymryd lle Alex Cuthbert ar yr asgell yn dilyn anaf i Cuthbert yn ystod y fuddugoliaeth y penwythnos diwethaf.
Adams sgoriodd unig gais y gêm, ac mae disgwyl iddo yn ogystal â Louis Rees-Zammit fod yn allweddol i ymgyrch ymosodol Cymru ar y ddwy asgell.
Llun: Asiantaeth Huw Edwards
Bydd George North yn ennill cap rhif 105, y mwyaf gan unrhyw olwr yn hanes carfan ryngwladol Cymru. Maae ei gyfraniadau amddiffynnol wedi bod yn allweddol i Gymru.
Mae'r ail reng Adam Beard hefyd wedi bod yn ganolog i lwyddiant ymosodol ac amddiffynnol y tîm yn ystod y gyfres.
Mae'r Springboks wedi gwneud 11 newid i'r garfan gollodd yn Bloemfontein, gydag enwau cyfarwydd fel Faf de Klerk a Willie le Roux yn dychwelyd i'r 15 sy'n dechrau.
Bydd y clo Eben Etzebeth yn ennill ei ganfed cap, a hynny yn ei ddinas enedigol. Yn ogystal bydd y bachwr Bongi Mbonambi yn ennill cap rhif 50 dros ei wlad.
Mae Cymru yn gwybod bydd angen iddynt fod ar eu gorau i guro pencampwyr y byd ac ennill y gyfres, ond mae eu perfformiadau hyd yma wedi profi bod gan y crysau cochion y gallu i ennill.
Tîm Cymru
15. Liam Williams (Rygbi Caerdydd – 80 cap); 14. Louis Rees-Zammit (Rygbi Caerloyw– 18 cap); 13. George North (Gweilch – 104 cap); 12. Nick Tompkins (Saracens – 24 cap); 11. Josh Adams (Rygbi Caerdydd – 41 cap); 10. Dan Biggar (Northampton Saints – 102 cap), capten; 9. Kieran Hardy (Scarlets – 13 cap); 1. Gareth Thomas (Gweilch – 12 cap); 2. Ryan Elias (Scarlets – 29 cap); 3. Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd – 40 cap); 4. Will Rowlands (Dreigiau – 20 cap); 5. Adam Beard (Gweilch – 36 cap); 6. Dan Lydiate (Gweilch – 67 cap); 7. Tommy Reffell (Teigrod Caerlŷr – 2 cap); 8. Taulupe Faletau (Rygbi Caerdydd – 91 cap)
Eilyddion
16. Dewi Lake (Gweilch – 7 cap); 17. Wyn Jones (Scarlets – 44 cap); 18. Sam Wainwright (Saracens – 1 cap); 19. Alun Wyn Jones (Gweilch – 152 cap); 20. Josh Navidi (Rygbi Caerdydd – 32 cap); 21. Tomos Williams (Rygbi Caerdydd – 35 cap); 22. Gareth Anscombe (Gweilch – 32 cap); 23. Owen Watkin (Gweilch – 32 cap)
Llun: Asiantaeth Huw Evans