Canllawiau newydd gan y Sioe Frenhinol yn ymateb i'r tywydd poeth
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd yn ymateb i'r tywydd poeth eithafol sydd i'w ddisgwyl yn ystod cyfnod y Sioe Frenhinol.
Mae'r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybudd oren am wres eithafol ar gyfer dydd Sul a dydd Llun, ond mae’r cyfnod bellach wedi'i ymestyn i ddydd Mawrth.
Mae'r canllawiau yn cynnwys cyfleusterau dŵr ychwanegol ar y safle ar gyfer pobl yn ogystal ag anifeiliaid, ac maent wedi pwysleisio'r angen i wisgo eli haul, het a chario botel ddŵr fel y bod modd defnyddio'r cyfleusterau ychwanegol o gwmpas maes y sioe.
Fe wnaeth y gymdeithas gyhoeddi bod rhagor o fannau eistedd o dan do ar gael fel y gall ymwelwyr eistedd yn y cysgod.
Fel blynyddoedd blaenorol, ni fydd cwn yn cael mynediad i'r maes heblaw am rai tywys, ac ni ddylid eu gadael mewn ceir chwaith.
Lles yr anifeiliaid
Mae amryw o ganllawiau yn cael eu paratoi ar gyfer yr anifeiliaid hefyd.
Bydd cyfleusterau dŵr ychwanegol ar gael iddynt ac mae'r amseroedd cyrraedd wedi eu haddasu fel y gallant gyrraedd yn fuan yn y bore a gyda'r nos er mwyn osgoi ciwiau yn ystod adegau poethaf y diwrnod.
Bydd milfeddygon y gymdeithas a stiwardiaid ar gael yn ystod y sioe i helpu gydag unrhyw broblem a bydd tymheredd yr adeiladau da byw yn cael eu monitro yn rheolaidd.