Rhod Gilbert yn derbyn triniaeth am ganser

Mae'r digrifwr, Rhod Gilbert, wedi cyhoeddi ei fod yn derbyn triniaeth am ganser.
Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd y cyflwynydd teledu a radio ei fod yn derbyn triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, lle mae hefyd yn un o noddwyr y ganolfan.
"Er na wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n derbyn y driniaeth yma, dwi'n gwybod yn well na neb fy mod i mewn dwylo diogel. Mae'r gofal dwi'n ei dderbyn gan y GIG yn anhygoel.
"Byddaf i'n diflannu am ychydig ac ddim yn gwneud sylw pellach am y tro wrth i mi ganolbwyntio ar wella."
Ni wnaeth gadarnhau y math o ganser mae'n derbyn triniaeth ar ei gyfer.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Gwefan Rhod Gilbert