Arlywydd Sri Lanka yn ymddiswyddo ar ôl ffoi o'r wlad

Mae Arlywydd Sri Lanka, Gotabaya Rajapaksa wedi cyflwyno llythyr o ymddiswyddiad wedi iddo ffoi i Singapore yn dilyn protestiadau dros sefyllfa economaidd y wlad.
Dywedodd dwy ffynhonnell lywodraethol bod yr arlywydd wedi e-bostio ei ymddiswyddiad i lefarydd senedd Sri Lanka nos Iau.
Ar 10 Gorffennaf cafodd tŷ preifat y Prif Weinidog Ranil Wickremesinghe ei losgi ac roedd miloedd o brotestwyr wedi meddiannu tŷ swyddogol Arlywydd Gotabaya Rajapaksa yn y brifddinas, Columbo.
Mae milwyr yn rheoli'r brifddinas ac mae cyrffiw mewn grym.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/SriLankaTweet