Suella Braverman allan o'r ras i arwain y Ceidwadwyr

Suella Braverman yw'r diweddaraf i adael y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn dilyn ail rownd o bleidleisio gan aelodau seneddol Ceidwadol ddydd Iau.
Fe fydd y pum ymgeisydd sydd ar ôl yn wynebu rownd arall o bleidleisio ddydd Llun.
Y pum aelod sy'n weddill yw Kemi Badenoch, Penny Mordaunt, Rishi Sunak, Liz Truss a Tom Tugendhat.
Cafodd canlyniad yr ail bleidlais ei gyhoeddi gan gadeirydd Pwyllgor 1922, Syr Graham Brady, am 15:00 ddydd Iau.
Canlyniad y bleidlais oedd:
- Kemi Badenoch, 49
- Penny Mordaunt, 83
- Rishi Sunak, 101
- Liz Truss, 64
- Tom Tugendhat, 32
- Suella Braverman, 27
Fe lansiodd yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss ei hymgyrch am yr arweinyddiaeth yn gynharach yn y dydd, gan ddweud y byddai'n barod i fod yn brif weinidog o'r diwrnod cyntaf.
Y cyn-Ganghellor Rishi Sunak oedd yn fuddugol yn y rownd gyntaf o bleidleisio, gyda Penny Mordaunt yn sicrhau'r ail nifer uchaf o bleidleisiau a Liz Truss yn dod yn drydydd. Yr un oedd y patrwm yn yr ail rownd hefyd.
Bydd y pleidleisio'n parhau tan y bydd dau ymgeisydd ar ôl, cyn i aelodau'r blaid ar lawr gwlad ddewis yr ymgeisydd buddugol.
Darllenwch ragor yma.