Agor cwest i farwolaeth bachgen 11 oed yn y môr yn Sir Benfro

Mae cwest i farwolaeth bachgen ifanc fu farw ger traeth yn Sir Benfro wedi clywed sut y bu farw wedi iddo gael ei dynnu i’r dŵr gan donnau'r môr.
Bu farw Zac Thompson, oedd yn 11 oed ac o Bennar, ar 4 Mehefin ar ôl mynd i drafferthion ym Mae Gorllewin Angle.
Clywodd y cwest yn Hwlffordd fod gwylwyr y glannau wedi cael eu hysbysu am “adroddiadau am berson oedd wedi ei dynnu oddi ar y creigiau.”
Bu farw Zac ddiwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r cwest wedi ei ohirio tra bod ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd yn parhau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.