ASau Ceidwadol yn bwrw pleidlais i ddewis arweinydd newydd eu plaid
Mae aelodau seneddol Ceidwadol wedi bod yn bwrw eu pleidlais dros arweinydd eu plaid yn y rownd ddiweddaraf o'r ornest ddydd Iau.
Mae chwech o enwau yn y ras, ac fe wnaeth y blychau pleidleisio gau am 13:30, gyda'r disgwyl y bydd canlyniad yn cael ei gyhoeddi am 15:00.
Hon yw'r ail rownd o bleidleisio, a'r tro hwn nid oes yn rhaid i'r chwe ymgeisydd sicrhau nifer benodol o bleidleisiau i aros yn y ras.
Fe fydd yr ymgeisydd gyda'r nifer isaf o bleidleisiau yn colli, a phum ymgeisydd yn parhau.
Y chwech sydd yn aros i glywed eu tynged yw:
- Kemi Badenoch
- Suella Braverman
- Penny Mordaunt
- Rishi Sunak
- Liz Truss
- Tom Tugendhat
Fe lansiodd yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss ei hymgyrch yn gynharach yn y dydd, gan ddweud y byddai'n barod i fod yn brif weinidog o'r diwrnod cyntaf.
Y cyn-Ganghellor Rishi Sunak oedd yn fuddugol yn y rownd gyntaf o bleidleisio, gyda Penny Mordaunt yn sicrhau'r ail nifer uchaf o bleidleisiau a Liz Truss yn dod yn drydydd.