Gosod cerflun o Mistar Urdd ar lethrau'r Wyddfa

Mae cerflun o Mistar Urdd ar fainc wedi ei osod hanner ffordd i fyny'r Wyddfa, fel rhan o ganmlwyddiant yr Urdd.
Dyma'r lleoliad cyntaf ymysg nifer wrth i'r cerflun deithio ar hyd a lled y wlad dros yr haf.
Yn ôl y trefnwyr mae’r fainc yn cynnig cyfle i unigolion, ffrindiau a theuluoedd eistedd a mwynhau’r olygfa a chael tynnu hunlun gyda Mistar Urdd, fel rhan o gystadleuaeth i ennill y fainc am wythnos.
Wedi i Mistar Urdd orffen ei daith a threulio wythnos mewn ysgol, gydag elusen neu sefydliad, bydd yn symud yn barhaol i un o wersylloedd yr Urdd.
Darllenwch fwy yma.
Mae Mistar Urdd wedi cyrraedd Yr Wyddfa! ⛰
— Urdd Gobaith Cymru (@Urdd) July 14, 2022
Visiting Snowdon this week? You may see a very familiar face...
🤳 Am fwy o wybodaeth | For more info on #HunlunMistarUrdd: https://t.co/Z1EtfH6zXP pic.twitter.com/Galq1IoejC