Newyddion S4C

Cyhoeddi carfan Cymru i herio'r Springboks yng ngêm olaf prawf De Affrica

14/07/2022
George North

Mae carfan rygbi Cymru wedi ei chyhoeddi ar gyfer gêm olaf y gyfres yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.

Byddai buddugoliaeth yn Stadiwm DHL yn sicrhau'r gyfres i'r crysau cochion.

Bydd George North yn ennill cap rhif 105, sydd yn golygu mai ef fydd y cefnwr gyda'r nifer fwyaf o gapiau yn hanes carfan ryngwladol Cymru.

Fe fydd Josh Adams yn cymryd lle Alex Cuthbert ar yr asgell yn dilyn anaf i Cuthbert yn ystod y fuddugoliaeth y penwythnos diwethaf.

Adams sgoriodd unig gais y gêm wrth i Gymru greu hanes gan ennill o 13-12 yn Bloemfontein.

Bydd Kieran Hardy yn cychwyn ei drydedd gêm olynol yn safle rhif 9, ac fe fydd y blaenasgellwr Tommy Reffell yn dechrau i Gymru eto ar ôl ennill seren y gêm tro diwethaf.

Owen Watkin fydd yn cymryd ei le ar y fainc - yr unig newid i eilyddion Cymru.

Tîm

15. Liam Williams (Rygbi Caerdydd – 80 cap); 14. Louis Rees-Zammit (Rygbi Caerlyr – 18 cap); 13. George North (Gweilch – 104 cap); 12. Nick Tompkins (Saracens – 24 cap); 11. Josh Adams (Rygbi Caerdydd – 41 cap); 10. Dan Biggar (Northampton Saints – 102 cap), capten; 9. Kieran Hardy (Scarlets – 13 cap); 1. Gareth Thomas (Gweilch – 12 cap); 2. Ryan Elias (Scarlets – 29 cap); 3. Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd – 40 cap); 4. Will Rowlands (Dreigiau – 20 cap); 5. Adam Beard (Gweilch – 36 cap); 6. Dan Lydiate (Gweilch – 67 cap); 7. Tommy Reffell (Teigrod Caerlyr – 2 cap); 8. Taulupe Faletau (Rygbi Caerdydd – 91 cap)

Eilyddion

16. Dewi Lake (Gweilch – 7 cap); 17. Wyn Jones (Scarlets – 44 cap); 18. Sam Wainwright (Saracens – 1 cap); 19. Alun Wyn Jones (Gweilch – 152 cap); 20. Josh Navidi (Rygbi Caerdydd – 32 cap); 21. Tomos Williams (Rygbi Caerdydd – 35 cap); 22. Gareth Anscombe (Gweilch – 32 cap); 23. Owen Watkin (Gweilch  – 32 cap)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.