Mo Farah: Yr heddlu'n ymchwilio i’r newydd ei fod wedi’i smyglo i’r DU

Mae Heddlu Llundain yn dweud eu bod wedi agor ymchwiliad i ddatguddiad Syr Mo Farah ei fod wedi'i smyglo i'r DU yn anghyfreithlon pan oedd yn blentyn naw oed.
Yn ôl y llu, fe fydd swyddogion arbenigol yn asesu gwybodaeth roddodd y cyn athletwr Olympaidd mewn rhaglen ddogfen gan y BBC.
Dywedodd Syr Mo ei fod wedi cyrraedd o dan enw ffug ar ôl dianc rhag rhyfel yn Somalia.
Ychwanegodd y rhedwr, 39, iddo gael ei gymryd gan ddynes nad oedd yn ei hadnabod a'i orfodi i gaethiwed domestig. Roedd wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn ffoadur.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu’r Metropolitan: "Rydym yn ymwybodol o adroddiadau yn y cyfryngau yn ymwneud â Syr Mo Farah. Nid oes adroddiadau wedi'u gwneud i Heddlu’r Met ar hyn o bryd.
"Mae swyddogion arbenigol wedi agor ymchwiliad ac ar hyn o bryd yn asesu'r wybodaeth sydd ar gael."
Darllenwch y stori'n llawn yma.