Hunanbortread cudd Van Gogh wedi ei ddarganfod yn Yr Alban

Mae hunanbortread gan yr artist Vincent Van Gogh wedi'i ddarganfod am y tro cyntaf tu ôl i lun arall.
Fe wnaeth arbenigwyr yn Orielau Cenedlaethol yr Alban ddarganfod yr hunanbortread pan ddefnyddiwyd peiriant pelydr-x ar un o’i luniau cyn arddangosfa.
Roedd yr hunanbortread wedi ei orchuddio mewn haenau o lud a chardfwrdd ar gefn gwaith cynharach o’r enw ‘Head of a Peasant Woman’.
Dywedodd uwch warchodwr yr oriel, Lesley Stevenson, ei bod hi mewn "sioc" ar ôl darganfod yr artist "yn edrych allan arni ".
Darllenwch y stori'n llawn yma.