Cynllun i ystyried defnyddio dŵr o hen domenni glo i wresogi tai
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect fydd yn ymchwilio i'r cyfle i ddefnyddio dŵr o hen domenni glo i wresogi tai.
Ers i ran helaeth o byllau glo Cymru gau, mae'r pympiau a oedd yn eu cadw'n sych wedi diffodd gan alluogi i'r pyllau i lenwi gyda dŵr.
Mae'r dŵr yma bellach yn cael ei wresogi gan brosesau daearegol, gan arwain y llywodraeth i ystyried ei ddefnyddio i ateb y galw am ynni yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd y prosiect gwerth £450,000 yn darparu cyllid i'r Awdurdod Glo i fapio safleoedd sydd a'r potensial i wresogi tai, busnesau a diwydiant.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 40% o gyflenwadau ynni yng Nghymru yn cael eu defnyddio er mwyn gwresogi adeiladau.
Dywed y llywodraeth y byddai defnyddio dŵr o hen domenni glo yn ffordd gynaliadwy a charbon isel o gyrraedd y cyflenwadau yma, gan gynhyrchu 75% llai o garbon o gymharu â defnyddio nwy naturiol.
Dywedodd y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, fod gwella effeithlonrwydd ein defnydd o ynni yn ein cartrefi yn rhan "hanfodol" o fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd.
"Mae angen i ni feddwl yn arloesol a sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ynni adnewyddadwy'r dyfodol," meddai.
"Felly rwy'n edrych ymlaen at glywed yr hyn y mae'r Awdurdod Glo yn ei ddarganfod fel rhan o'u gwaith.
"Mae'n gyffrous iawn y gallai cymunedau fod mor agos at ddewis amgen sy'n barod yn dechnolegol, yn lle dulliau gwresogi traddodiadol, a allai ein helpu tuag at ein taith i Gymru Sero Net erbyn 2050."