Annog eraill i ddysgu’r Gymraeg, ar ôl ffarwelio â’r sioe fawr
Annog eraill i ddysgu’r Gymraeg, ar ôl ffarwelio â’r sioe fawr
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C ar drothwy ei sioe olaf yn Brif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae Steve Hughson wedi dweud ei fod yn awyddus i helpu pobl eraill i ddysgu Cymraeg.
Bydd y prif weithredwr yn ffarwelio wedi degawd yn arwain y gymdeithas amaethyddol.
“Pryd dechreuais i yn y swydd fel prif weithredwr, doedd dim Cymrag o gwbwl ‘da fi, “ meddai.
“Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i‘r Gymdeithas ac mae’n bwysig i bobol cefn gwlad, ac rodd yn bwysig felly i fi ddysgu’r iaith. Odd dim Cymrag o gwbwl ‘da fi cyn dechrau gyda’r Gymdeithas. O’n i’n canu mewn corau meibion, yn canu’n Gymraeg, ond ddim yn deall y geiriau.”
Gyda rhagolygon y tywydd, a’r gwres uchel yn un o heriau’r sioe eleni, mae Steve Hughson yn dweud ei fod yn ceisio dysgu geiriau ychwanegol bob dydd. Ac un o eiriau Cymraeg newydd y dydd yr wythnos hon, yw “eli haul! “
“Nawr dwi eisiau cario mlaen i siarad Cymraeg ar ôl gadael y sioe, ac os daw cyfle i fi helpu pobl i ddysgu’r iaith… a ma’n rhaid cael sefyllfa lle ma’ pobol yn teimlo’n gyfforddus i wneud camgymeriadau , mae’n bwysig i bobl siarad a ‘have a go’
'Gormod o uchafbwyntiau'
Yn ôl Steve Hughson, mae gormod o uchafbwyntiau dros y ddegawd ddiwethaf i’w nodi.
“Dwi’n dod o Lanfair Ym Muallt yn wreiddiol, ges i fy magu yma, ac yn dod o fferm leol. Mae’r sioe yn rhan o fy nghalon a bod yn onest.”
Mae ei berthynas gyda selogion y sioe yn golygu llawer iddo. Bob blwyddyn mae sir benodol yn noddi’r sioe ac yn codi arian ar ei chyfer.
“Pan ddechreuais i’r swydd, roeddwn i’n deall pwysigrwydd y sir nawdd, a mod i’n gweithio gyda’r gymdeithas yn codi arian a chodi proffil y gymdeithas, “ meddai.
“Dw i ‘di bod yn codi arian gyda seiclo, saethu colomennod clai, rhedeg, cneifio, marchogaeth, a nes i Siôn a Siân gyda Dai Llanilar !
“Mae’n bwysig gweithio mewn partneriaeth gyda phobl y sir, i ‘neud ffrindie newydd a dangos fy nghefnogaeth i be o’n nhw’n neud i’r gymdeithas. “
Heriau’r pandemig
Ac wrth i gannoedd ar filoedd o ymwelwyr baratoi i heidio yn ôl i’r sioe gyntaf ers 2019, oherwydd y pandemig, mae Steve Hughson yn cydnabod bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol.
“Ni ‘di bod yn gweithio’n galed iawn i amddiffyn y Gymdeithas, a gneud yn siwr bo’ ni’n rhedeg y Gymdeithas yn effeithiol, a gneud yn siwr bo’ ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan er mwyn cael arian o gronfeydd.
“Ond nawr ‘den ni mewn sefyllfa gry’ iawn. ‘Den ni mas o‘r pandemig, ac yn creu llwyfan cry’. “
'Helpu pobol i ddysgu'r iaith'
Mae Steve Hughson yn dweud mai ei flaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau fod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2022 yn llwyddiant, ac yna’n gobeithio cael cyfnod o ymlacio.
“’Dw i dal ishe bod yn gysylltiedig â’r sector digwyddiadau a hefyd ‘dwi i eisiau helpu pobol i ddysgu’r iaith Gymraeg, felly os allai ‘neud unrhywbeth i godi proffil yr iaith fel dysgwr , dwi’n hapus i wneud.
“Os dwi’n gallu helpu un person – bydde hynny’n ffantastic ! “
Bydd Steve Hughson yn trosglwyddo’r awenau i’w olynydd Aled Rhys Jones o Landeilo a fydd yn dechrau yn ei swydd fel Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fis Medi.