Rhybudd am oedi i deithwyr yn ystod y Brifwyl yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhybuddio teithwyr am "gynnydd sylweddol" mewn traffig yn yr ardal yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis nesaf.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Nhregaron rhwng 30 Gorffennaf a 06 Awst 2022.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y cyngor bod disgwyl cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod cyfnod prysur yr haf:
“Wrth i ni baratoi i roi croeso cynnes i bawb, rydym am wneud y cyhoedd yn ymwybodol o amhariadau posibl ar wasanaethau.
"Disgwylir cynnydd sylweddol yn nifer y traffig ar y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn ystod y cyfnod o osod a chlirio’r safle."
Mae’r datganiad hefyd yn nodi y bydd hi’n debygol y bydd gwasanaethu bws y sir yn cael eu tarfu.
Ychwanegodd y datganiad: “Bydd gweithredwyr bysiau Ceredigion yn gwneud pob ymdrech i leihau’r effaith ar y cyhoedd sy’n teithio.
"Yn ogystal â’r gwasanaethau bws arferol, bydd gwasanaethau masnachol ychwanegol ar gael i’r Maes gan gwmnïau bysiau o Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron."
Mae amserlenni llawn i’w gweld ar wefan yr Eisteddfod.