
Dafydd Iwan: 'Dim hawl gan Reform i ddefnyddio Yma o Hyd'
Dafydd Iwan: 'Dim hawl gan Reform i ddefnyddio Yma o Hyd'
Mae'r canwr a'r ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan wedi dweud nad oes gan blaid Reform 'nac unrhyw un sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth asgell dde' yr hawl i ddefnyddio un o'i ganeuon mwyaf adnabyddus 'Yma o Hyd'.
Fe ddywedodd Dafydd Iwan wrth Newyddion S4C ei fod yn gandryll ar ôl i grŵp asgell dde eithafol ddefnyddio ei gân anthemig mewn fideo hyrwyddo heb ei ganiatâd.
Fe bostiodd y grŵp 'Voice of Wales' fideo ar Facebook o gar yn gyrru o amgylch ardal Llanelli gyda baneri Cymru yn cael eu harddangos mewn arosfannau bysiau, ar bolion lamp ac mewn lleoliadau eraill ar ochr y ffordd gydag Yma o Hyd yn chwarae fel trac sain.
Mae'r grŵp, sy'n cael ei redeg gan Dan Morgan [sydd ag euogfarnau am dwyllo] a Stan Robinson, a oedd unwaith yn dadlau dros ysbaddu newyddiadurwr teledu â 'llafn rhwd', yn gysylltiedig â'r ymgyrchydd asgell dde sy'n defnyddio'r enw Tommy Robinson.
Ar ôl i'r grŵp gael ei wahardd oddi ar blatfform YouTube am gynnwys elfennau hiliol yn ei fideos, mae Morgan a Robinson bellach yn darlledu eu cynnwys ar dudalen Facebook.

Cafodd Yma o Hyd ei recordio gan Dafydd Iwan a'r band gwerin Ar Log ym 1983, gyda'r neges o ddathlu goroesiad yr iaith a'r diwylliant Cymraeg dros y canrifoedd er gwaethaf ymdrechion i'w thramgwyddo.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Yma o Hyd fel pe bai wedi dod yn ail anthem genedlaethol Cymru wrth iddi gael ei chwarae o flaen cynulleidfa ehangach mewn gemau pêl-droed Cymru.
Daeth Dafydd Iwan yn adnabyddus yn y 1960au fel canwr-gyfansoddwr a oedd yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac achos Cymru annibynnol, yn ogystal â bod yn gyn-lywydd Plaid Cymru.

'Rhybudd'
Mewn cyfweliad arbennig ar achlysur ymddangosiad olaf Dafydd Iwan yn canu efo'i fand yng Ngŵyl Llanuwchllyn, dywedodd with Newyddion S4C: "Yn anffodus, mae’n bosib addasu y syniad sydd wrth galon Yma o Hyd at unrhyw achos, ac yn anffodus, ma’ ‘na achosion dwi’n cytuno dim â nhw wedi dechrau ei defnyddio hi er mwyn trio rhoi gwedd Gymreig ar wleidyddiaeth Reform a Farage ac ati.
"O’n i ishe neud hi’n hollol glir nad oes gen i ddim byd i ddweud wrthyn nhw a does genna' nhw ddim hawl i ddefnyddio fy nghân i i gefnogi’r datblygiadau asgell dde ‘ma sydd mor niweidiol i Gymru a does ganddyn nhw ddim byd mewn gwirionedd i gynnig i Gymru.
"Holl bwrpas Yma o Hyd ydy gwrthwynebu be’ o’dd y Torïaid yn ei wneud yn yr 80au a beth mae Farage a’i griw am wneud rŵan.
"Felly rhybudd i bawb i beidio defnyddio Yma o Hyd heb ganiatâd y cyhoeddwyr a’r awdur." ychwanegodd.