Tri pherson wedi marw ar ôl i hofrennydd daro'r ddaear ar Ynys Wyth

Hofrennydd Ynys Wyth

Mae tri pherson wedi marw a pherson arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i hofrennydd daro'r ddaear ar Ynys Wyth yn ne Lloegr.

Cafodd yr heddlu eu galw i safle'r digwyddiad oddi ar yr A3020 ar Ffordd Shanklin fore Llun.

Roedd yr hofrennydd wedi gadael Maes Awyr Sandown ar yr ynys am 09:00 fore Llun.

Roedd pedwar o bobl, gan gynnwys y peilot yn yr hofrennydd yn ystod gwers hedfan.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn lleol: "Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu datgelu mwy o wybodaeth am y bobl yn yr hofrennydd, wrth i ymdrechion barhau i gysylltu â chefnogi eu teuluoedd.

"Ni fyddwn yn rhoi unrhyw sylw pellach am amgylchiadau'r digwyddiad ond byddwn yn parhau i gydweithio gyda'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr."

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad bod hofrennydd wedi taro'r ddaear mewn cae ger ffordd yr A3020 Heol Shanklin am 09:24 fore Llun.

Mae’r ffordd yn parhau ar gau oherwydd fod cynifer o gerbydau'r gwasanaethau brys ar y safle.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.