Kneecap yn canslo eu taith i America
Mae'r triawd rap o ddinas Belfast, Kneecap wedi gorfod canslo eu taith i America oherwydd achos llys un o'r aelodau.
Bydd yn dychwelyd i'r llys yn Llundain ar 26 Medi, ar ôl i'w dîm cyfreithiol ddadlau mewn gwrandawiad yr wythnos diwethaf y dylai'r achos gael ei ollwng, yn sgil nam technegol yn y modd y cafodd yr achos ei gyflwyno yn ei erbyn.
Mae'r erlyniad yn dadlau bod y canwr 27 oed wedi arddangos baner yn cefnogi Hezbollah mewn gig yn yr O2 Forum yn Kentish Town, gogledd Llundain, fis Tachwedd y llynedd.
Mae Hezbollah yn fudiad terfysgol sydd wedi ei wahardd ac mae datgan cefnogaeth iddo'n drosedd ynddi ei hun yn y DU.
Yn y gwrandawiad fis Medi, mae disgwyl i'r prif ynad Paul Goldspring ddyfarnu a oes modd i'r achos barhau.
'Newyddion drwg'
Ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd y grŵp: “I'n holl ffans yn yr Unol Daleithiau, mae gennym newyddion drwg
"Oherwydd fod ein gwrandawiad llys nesaf yn Llundain yn agos at ddyddiad ein taith.... bydd yn rhaid i ni ganslo ein 15 sioe fis Hydref yn America
"Gyda phob tocyn wedi ei werthu ar gyfer pob sioe, i'n degau ar filoedd o ffans, rydym yn cyhoeddi newyddion trist.
"Ond wedi i ni ennill ein hachos llys - ac fe wnawn ni - rydym yn addo trefnu taith fydd hyd yn oed yn fwy."
Yn ôl y band, mae modd i bawb gael ad-daliad, ac maen nhw wedi addo "rhannu newyddion arbennig iawn" gyda'u ffans yn America yr wythnos nesaf a fydd yn golygu y bydd modd "cysylltu â chi i gyd fis Hydref."
Cadarnhaodd Kneecap y bydd eu sioeau yn Vancouver a Toronto, Canada fis Hydref yn cael eu cynnal.
Cafodd y band, sef Liam Óg Ó hAnnaidh, Naoise O Caireallain a JJ O Dochartaigh, ei ffurfio yn ninas Belfast, gan ryddhau eu sengl gyntaf yn 2017.
Hawliodd y grŵp y penawdau fis Ebrill ar ôl i ddeunydd fideo ymddangos, lle roedd hi'n ymddangos fod aelod o'r band yn dweud "The only good Tory is a dead Tory...kill your local MP" ac "Up Hamas, up Hezbollah" mewn gig arall.
Mae Kneecap wedi ymddiheuro i deuluoedd aelodau seneddol sydd wedi eu llofruddio, gan ddadlau hefyd "nad ydynt erioed wedi cefnogi" Hamas neu Hezbollah.
Perfformiodd Kneecap yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys ganol Awst.
Ac yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd y triawd eu bod yn ymestyn eu taith ar draws y DU gan berfformio yng Nghaerdydd fis Tachwedd.