Arestio ail berson mewn cysylltiad ag 'ymosodiad difrifol' ar fachgen 15 oed
Mae ail berson wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag "ymosodiad difrifol" ar fachgen 15 oed ar Ynys y Barri.
Fe ddioddefodd bachgen 15 oed ymosodiad gan grŵp o ddynion ger maes parcio Heol Paget am 19:30 ar 12 Awst.
Roedd angen triniaeth arno yn yr ysbyty wedi iddo gael ei anafu.
Mae ail berson, bachgen 17 oed o Drelái, Caerdydd wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Mae modd cysylltu â'r llu trwy eu gwefan neu ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2500258409.