Pum newyddiadurwr ymhlith o leiaf 20 wedi eu lladd yn Gaza

Pum newyddiadurwr ymhlith o leiaf 20 wedi eu lladd yn Gaza

Yn ôl adroddiadau, mae o leiaf 20 o bobl, pump newyddiadurwr yn eu plith, wedi eu lladd yn ystod ymosodiadau Israel ar ysbyty yn ne Llain Gaza.

Roedd person camera ar ran asiantaeth newyddion Reuters a newyddiadurwr o Associated Press ymhlith y rhai sydd wedi eu lladd yn yr ymosodiadau ar ysbyty Nasser. 

Mae adroddiadau fod newyddiadurwr arall a gafodd ei ladd yn gweithio i Al Jazeera.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n cael ei rhedeg gan Hamas, cafodd nifer o bobl eu lladd yn ystod yr ymosodiad cyntaf, ac eraill yn ystod yr ail ymosodiad tra roedd criwiau achub ar y safle. 

Mae byddin Israel wedi dweud iddyn nhw gynnal ymosodiad yn yr ardal. 

Mae nhw'n dweud ei bod yn flin ganddyn nhw os cafodd unigolion nad sy'n rhan o'r gwrthdaro eu niweidio, gan fynnu nad ydynt yn targedu newyddiadurwyr 

Bythefnos yn ôl, cafodd chwe newyddiadurwr eu lladd mewn ymosodiad gan Israel ger Ysbyty  al-Shifa yn Ninas Gaza. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.