Pont y Borth i ailagor yn ystod y dydd

Cyngor Môn - Pont Menai

Fe fydd Pont y Borth yn ailagor yn rhannol fore Gwener wedi iddi gau ar unwaith y penwythnos diwethaf yn dilyn cyngor brys gan beirianwyr.

Bydd y bont yn ailagor am 07:00 fore Gwener i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn unig.

Ond fe fydd yn parhau ar gau yn llwyr dros nos, rhwng 19:00 a 07:00, saith diwrnod yr wythnos, gydag archwiliadau pellach yn digwydd tra'i bod ar gau. 

Dim ond cerbydau sydd yn pwyso llai na thair tunnell fydd yn cael croesi'r bont pan y mae hi ar agor.

Yn ogystal, bydd mesurau rheoli traffig ac un llif o draffig oddi ar yr ynys yn y bore (07:00 o'r gloch - 13:00 o'r gloch - Ynys Môn i Fangor) ac i'r ynys yn y prynhawn (13:00 o'r gloch - 19:00 o'r gloch - Bangor i Ynys Môn).

Wrth gyrraedd y bont, bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r droedffordd bwrpasol. 

Bydd cerddwyr yn defnyddio troedffordd ar wahân. Bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu defnyddio'r bont dros nos. Bydd trefniadau mynediad brys ar waith ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.

Fe fydd camau gorfodi ar waith tra y mae'r bont ar agor er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw at y terfyn pwysau o dair tunnell. 

Dywedodd y Llywodraeth y bydd peidio â chydymffurfio yn arwain at gamau erlyn gan yr heddlu a bydd yn arwain at gyfnodau eraill o gau'r bont er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n croesi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni geisio datrys y mater brys hwn.

"Rydym yn gweithio cyn gynted â phosibl i gael gwared ar y terfyn 3 thunnell a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar amserlen amcangyfrifedig pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.