
Tywysog Cymru o dan deimlad wrth i wraig weddw sôn am hunanladdiad ei gŵr
Roedd Tywysog Cymru yn amlwg o dan deimlad wrth iddo glywed yn uniongyrchol am effaith ddinistriol hunanladdiad, gan orfod oedi yn ystod sgwrs gyda dynes o Gaerdydd, oedd yn trafod ei gŵr a oedd wedi lladd ei hun.
Ers iddi golli ei gŵr, mae Rhian Mannings wedi sefydlu elusen sy'n cefnogi teuluoedd mewn galar - ac mae Sefydliad Brenhinol y Tywysog William wedi cyfrannu £1 miliwn er mwyn datblygu 'Rhwydwaith Atal Hunanladdiad Cenedlaethol'.
Bydd y rhwydwaith, sy'n bwriadu gweithredu ar draws y DU, yn gweithio i ddeall mwy am achosion sy'n arwain i fyny at berson yn cyflawni hunanladdiad ac i gynnig cefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnynt.
Ar ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae'r Tywysog William wedi dweud ei fod am weld "ymateb cenedlaethol i drasiedïau torcalonnus o hunanladdiad, lle mae modd eu hatal rhag digwydd."

Mewn sgwrs emosiynol, a gafodd ei dal ar gamera, dywedodd Rhian Mannings wrth y Tywysog fod ei gŵr wedi cymryd ei fywyd ei hun, bum niwrnod ar ôl i'r cwpl wynebu marwolaeth eu mab blwydd oed.
Gofynnodd y Tywysog iddi sut yr oedd hi wedi ymdopi a pharhau i fagu dau o blant wedi'r fath drallod.
"Rwy'n edrych yn ôl ac nid wyf hyd heddiw yn gwybod sut y gwnaethom oroesi," meddai Rhian.
"Yn anffodus mae llawer o stigma yn parhau ynghylch hunanladdiad, a oeddech chi'n teimlo hynny ar y pryd?" gofynnodd y Tywysog William.
"Roeddwn i wedi fy synnu'n fawr. Doeddwn i erioed wedi cael fy effeithio gan hunanladdiad cyn hyn. Roedd yn rhywbeth oedd yn digwydd ar y newyddion. Ni fyddai neb yn siarad amdano," meddai Rhian wrtho, mewn sgwrs yn ei chegin yn ei chartref yng Nghaerdydd.
Gofynnodd y Tywysog William iddi beth fyddai hi'n ei ddweud wrth ei gŵr pe bai hi'n gallu siarad ag ef nawr.
'Gofyn i fy hun bob dydd'
"'Pam na wnes di siarad â mi?' Rwy'n gofyn hynny i mi fy hun bob dydd. Roedd colli ein mab wedi'i ddinistrio'n llwyr, roedd yn beio'i hun," meddai.
Roedd y Tywysog yn ymddangos ei fod o dan gymaint o deimlad yn ystod y sgwrs, nes ei fod yn cael trafferth i gael ei eiriau allan.
"Ydych chi'n iawn?" gofynnodd Rhian wrth y Tywysog.
"Mae'n ddrwg gen i, mae'n anodd gofyn y cwestiynau yma i chi," meddai William.
"Rydych chi wedi profi colled eich hun," meddai Rhian wrtho. "Gall bywyd daflu pethau ofnadwy fel hyn atoch chi. Ond drwy siarad amdano, drwy gael gobaith, gallwch chi barhau," fe ychwanegodd Rhian.
Ar ôl ei cholled ofnadwy yn 2012, sefydlodd Rhian elusen, 2wish, i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan farwolaeth sydyn neu annisgwyl plentyn neu berson ifanc.
Bydd yr elusen honno'n un o 20 o sefydliadau fydd yn rhan o Rwydwaith Atal Hunanladdiad Cenedlaethol newydd.
Mae gwybodaeth am gymorth ar gael i unrhyw un sy'n profi cyfnodau o iselder ar dudalen Cymorth ar wefan S4C.
- https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/page/iselder