Israel yn cadarnhau cymeradwyo'r cynllun cadoediad
Mae swyddfa Prif Weinidog Israel wedi rhyddhau datganiad yn cadarnhau eu bod wedi cymeradwyo'r cynllun sy'n ddechrau i'r cadoediad ac yn sicrhau rhyddhau gwystlon o Gaza.
Mae bwriad i'r cadoediad ddod i rym yn gynnar fore Sadwrn, 24 awr ar ôl i'r cytundeb gael ei gymeradwyo.
Mae swyddogion milwrol yn America, hefyd wedi cadarnhau eu bwriad i symud hyd at 200 o filwyr sydd eisoes wedi'u lleoli yn y Dwyrain Canol i gydlynu'r llu rhyngwladol fydd yn bresennol ar y llawr yn Gaza i fonitro a chefnogi'r cadoediad, meddai llefarydd o'r Pentagon.
Yn y cyfamser, mae'r Arlywydd Trump wedi dweud y gallai gwystlon o Israel, sydd wedi bod yn gaeth dan warchae'r mudiad terfysgol Hamas ers dwy flynedd, gael eu rhyddhau ddydd Llun neu ddydd Mawrth yr wythnos nesaf.
Yn ogystal â’r cadoediad a’r broses o ryddhau'r gwystlon, fe fydd cam cyntaf y cytundeb hefyd yn sicrhau fod Israel yn rhyddhau cannoedd o garcharorion rhyfel Palesteinaidd, ac y bydd milwyr o Israel yn dechrau gadael rhannau o diriogaeth Gaza, ac y bydd cannoedd o lorïau cymorth dyngarol yn cael mynediad i Gaza bob dydd.
"Mae'n ddatblygiad arwyddocaol," meddai Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu mewn anerchiad i weinidogion y llywodraeth.
"Rydyn ni wedi ymladd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i gyflawni ein hamcanion rhyfel, ac un o'r nodau canolog oedd dychwelyd y gwystlon - pob un ohonynt, y byw a'r meirw.
"Ac rydym ar fin cyflawni'r nod hwnnw."