Carcharu dyn a ymosododd ar ei ferch ei hun â morthwyl
Rhybudd: Gall rai manylion yn yr erthygl hon beri gofid.
Mae dyn 41 oed o’r Wyddgrug wedi cael ei garcharu am droseddau trais domestig yn erbyn ei ferch ei hun, gan gynnwys ei tharo â morthwyl.
Fe wnaeth Ricky Richardson o Heol Dinbych, yr Wyddgrug, gyfaddef mewn gwrandawiad blaenorol i ymddygiad rheoli a gorfodi, wyth cyhuddiad o ymosod, a bygythiad i ladd.
Cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar gan Lys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau.
Roedd Mr Richardson wedi codi ofn ar ei ferch, ymosod yn gorfforol arni heb reswm bygwth cymryd ei fywyd ei hun, os na fyddai'n cael ei ffordd ei hun.
Ar adegau, byddai'n awgrymu hunan niweidio, ond pan geisiodd y dioddefwr atal y digwyddiadau, byddai Richardson yn ei tharo ac yn ymosod arni.
Arweiniodd un digwyddiad at y diffynnydd yn taro coes ei ferch â morthwyl, pan ofynnodd hi iddo adael ar ôl achosi aflonyddwch yn y cartref.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, Ditectif Gwnstabl Danielle Craig: “Mae’r dioddefwr yn yr achos yma wedi bod yn hynod ddewr wrth gamu ymlaen a siarad â’r heddlu am y trais, y rheolaeth a’r orfodaeth y dioddefodd gartref gan ei thad ei hun - y person a ddylai fod wedi’i hamddiffyn.
“Rwy’n ei chanmol am ei dewrder wrth siarad allan a gobeithio y gall hi nawr ailadeiladu ei bywyd, heb ofni trais yn ei chartref.
“Rydym yn parhau i weithredu ar unrhyw adroddiad o drais domestig ac o ymddygiad rheoli a gorfodi ac ni fyddwn yn rhoi’r gorau i’n hymdrechion i ddwyn troseddwyr cam-drin gerbron y llys.”