Dyffryn Nantlle: Cau ysgol gynradd yn 'gwneud y pentref yn lle estron'
Byddai cau ysgol gynradd yng Ngwynedd yn golygu bod llai o deuluoedd sy'n siarad Cymraeg yn ymgartrefu yn yr ardal ac yn gweld "mewnfudwyr yn prynu tai ac yn gwneud y pentref yn lle estron" yn ôl un cynghorydd.
Daw'r sylwadau mewn ymateb i gynnig Cyngor Gwynedd i gau dwy ysgol, Ysgol Nebo, ac hefyd Ysgol Baladeulyn sydd yn Nyffryn Nantlle.
Fe fydd yna ymgynghoriad statudol ar y cais i gau'r ddwy ysgol ar 31 Rhagfyr 2026, gyda disgyblion Ysgol Nebo yn symud i Ysgol Llanllyfni, a disgyblion Ysgol Baladeulyn yn symud i Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027.
Fe fydd y mater yn cael ei ystyried yng nghabinet y cyngor ddydd Mawrth.
Fe wnaeth adroddiad nodi fod yna "ostyngiad sylweddol a chyson" yn y niferoedd yn Ysgol Nebo, a “gostyngiad sylweddol a pharhaus” yn Ysgol Baladeulyn.
Ond dywedodd cynghorydd Llanllyfni Peter Thomas: "Mae'n siom mawr i ddarllen penderfyniad yr adran addysg ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Baladeulun ar 31 Rhagfyr 2026.
"Fe fydd cymuned Nantlle yn drist iawn o glywed yr argymhelliad yma.
"Yn fy marn i, fe fydd yna effaith negyddol ar y gymuned, a byddai cau Ysgol Baladelun yn ergyd fawr i bentref Nantlle.
"Pe bai'r argymhelliad yn digwydd, ni fyddai teuluoedd cyfrwng Cymraeg eisiau dod i fyw i'r pentref i fagu eu plant, a dwi'n cymryd y byddai mewnfudwyr eisiau prynu'r tai a gwneud y pentref yn lle estron."
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Davies ar gyfer ward Clynnog y byddai cau Ysgol Nebo yn cael "effaith negyddol".
"Rydym yn cydnabod fod yr ysgol mewn sefyllfa fregus gyda niferoedd isel," meddai.
"Mae'r ysgol yn ased i'r iaith Gymraeg a'r diwylliant lleol, byddai ei cholli yn golled barhaol i'r pentref."
Mae gan Ysgol Nebo 11 o ddisgyblion o ddosbarth derbyn i Flwyddyn 6, a chapasiti o 51.
Mae gan Ysgol Baladeulyn chwe disgybl o ddosbarth derbyn i Flwyddyn 6 ar gofrestr yr ysgol, a chapasiti o 55.
Pe bai'r Cabinet yn cefnogi'r argymhelliad, byddai cyfnod o ymgynghoriad statudol yn debygol o ddigwydd cyn diwedd tymor yr Hydref.