Cyn-gynghorydd o'r Felinheli yn destun ymchwiliad tribiwnlys safonau

iwan huws.jpg

Mae un o gyn-gynghorwyr Cyngor Gwynedd o'r Felinheli yn destun ymchwiliad gan dribiwnlys safonau.

Fe wnaeth Iwan Huws, oedd yn cynrychioli ward Bethel a'r Felinheli ar ran Plaid Cymru, ymddiswyddo o'r cyngor ar 18 Medi.

Nid yw’n eglur os oedd penderfyniad Mr Huws i adael y cyngor yn gysylltiedig â’r ymchwiliad.

Mae Newyddion S4C yn deall fod cwyn am Mr Huws wedi ei hystyried gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei chyfeirio ymlaen at Banel Dyfarnu Cymru.

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn dribiwnlys annibynnol, gyda'r gwaith o benderfynu ar honiadau o dorri rheolau gan aelodau etholedig o gynghorau'r wlad.

Côd ymddygiad

Bydd y tribiwnlys yn ystyried os yw Iwan Huws wedi ymddwyn yn groes i un cymal penodol yn y côd ymddygiad i gynghorwyr.

Mae’r cymal hwnnw yn nodi bod yn rhaid i gynghorydd “beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy'n dwyn anfri ar eich swydd neu ar eich awdurdod.”

Nid oes dyddiad wedi ei osod hyd yma ar gyfer tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru i achos Mr Huws.

Yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Aberconwy yn 2011, roedd Iwan Huws yn gyn-Brif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri am gyfnod.

Mae wedi gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gorffennol hefyd fel eu cyfarwyddwr dros Gymru.

Cafodd ei ethol yn gynghorydd sir yn 2022.

Mae isetholiad wedi ei threfnu ar gyfer 13 Tachwedd i lenwi’r sedd wag yn ward Bethel a'r Felinheli ers i Mr Huws ymddiswyddo.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Mr Huws.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.