Môn: Bwrdd Iechyd yn 'ymrwymo' i gydweithio gyda hosbis wrth iddi gau dros dro
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud ei bod "wedi ymrwymo" i gydweithio gydag hosbis yng Nghaergybi wrth iddi gau dros dro yn ddiweddarach y mis hwn.
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei bod yn benderfynol o gydweithio â Hosbis Dewi Sant Ysbyty Penrhos Stanley er mwyn sicrhau ei bod yn gallu ail-agor yn y dyfodol.
Fis Gorffennaf, fe gyhoeddodd yr hosbis ei bod yn bwriadu cau ei huned cleifion mewnol pedwar gwely ar yr ynys dros dro o fis Hydref 2025.
Yn ôl yr hosbis, y rheswm dros gau’r uned yw oherwydd ei bod yn wynebu heriau o ran costau cynnal y gwasanaeth ochr yn ochr â gostyngiad yn incwm staff.
Mae disgwyl iddynt adolygu’r penderfyniad i gau’r uned dros dro ym mis Gorffennaf 2026.
'Gwerthfawr'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod gwelyau’r hosbis yn cynnig "cyfraniad gwerthfawr iawn at y gwasanaethau gofal diwedd oes a gofal lliniarol i drigolion Ynys Môn a Gwynedd," gan gynorthwyo saith claf ar gyfartaledd, bob mis.
Mae nhw'n dweud ei bod yn awyddus i “roi sicrwydd” i bobl yr ardal y bydd gofal diwedd oes “o safon” yn parhau pan fydd yr hosbis yn cau yn ddiweddarach y mis hwn.
Dywedodd Carol Shillabeer: "Ein blaenoriaeth yw cydweithio â Hosbis Dewi Sant i sicrhau bod unigolion a'u teuluoedd yn parhau i gael gofal o ansawdd uchel, sy’n cael ei gynnig mewn lleoliad a ffafrir ganddynt.
"Mae hyn yn cynnwys cynnig timau nyrsio ardal, sydd ar gael 24 awr y dydd; cymorth gan wasanaethau gofal lliniarol arbenigol, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos; a gwasanaeth nos Marie Curie.
"Rydym hefyd wedi bwrw ymlaen yn ddi-oed i brosesu ceisiadau gan staff sy'n gweithio i Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi ar hyn o bryd ac sy'n dymuno ymuno â'n banc nyrsys."
Ychwanegodd: "Bydd cleifion yn dal i gael dewis ble y byddant yn cael gofal lliniarol neu ofal diwedd oes, boed hynny yn eu cartref, yn yr ysbyty, neu yn Hosbis Dewi Sant yn Llandudno.
"Mae Hosbis Dewi Sant wedi addo y bydd yn adolygu’r penderfyniad i gau’r uned dros dro ym mis Gorffennaf 2026 ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â nhw wrth i ni geisio cynnig y gofal gorau posibl i gleifion a'u teuluoedd."