Cyngor Sir Gâr yn ystyried cau pedair ysgol gynradd

ysgol

Mae adroddiad newydd yn dweud bod pedair ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin yn wynebu'r posibilrwydd o gau.

Mae'r cyngor yn cynnig cau Ysgol Llansteffan ddiwedd mis Awst 2026 ac Ysgol Y Fro, ger Cydweli, Ysgol Meidrim, i'r gorllewin o Gaerfyrddin, ac Ysgol Pontiets ddiwedd mis Rhagfyr 2026.

Bydd aelodau pwyllgor craffu'r cyngor yn clywed am y cynlluniau mewn cyfarfod ar 14 Hydref.

Yr argymhelliad ar hyn o bryd yw cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan oherwydd bod ganddi lai na 10 disgybl pan gafwyd asesiad ohoni y llynedd.

Byddai  ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal ynghylch y tair ysgol arall, cyn cyhoeddi hysbysiad statudol posib.

Cafodd y pedair ysgol eu nodi fel rhan o strategaeth gyffredinol y cyngor i foderneiddio addysg yn y sir.

Addysg gynaliadwy

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, aelod y cabinet dros addysg, fod y strategaeth yn anelu at sicrhau darpariaeth addysg gynaliadwy a chytbwys ledled y sir.

“Bydd y cynigion hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r amgylchiadau heriol sy’n wynebu ysgolion unigol a’r system ysgolion ehangach, sy’n cynnwys ysgolion sy’n gweithredu gyda niferoedd disgyblion ymhell islaw eu capasiti... a sefyllfaoedd ariannol anghynaliadwy,” meddai.

Mae gan Sir Gaerfyrddin nifer fawr o ysgolion cynradd ac er eu bod yn aml yn rhan allweddol o’u cymuned, mae’n ddrud eu rhedeg. ​​

Mae rhai rhieni hefyd yn dewis anfon eu plant i ysgolion mewn dalgylchoedd eraill.

Arbedion

Byddai cau’r pedair ysgol yn arbed tua £342,064 y flwyddyn i’r cyngor, yn ôl yr adroddiad, ynghyd â £30,915 pellach mewn costau canolog fel cymorth adnoddau dynol, y gwasanaeth cerddoriaeth a chynnal a chadw tiroedd.

Ar ben hynny gallai'r cyngor eu gwerthu am oddeutu £695,000, yn ôl yr adroddiad, pe na bai unrhyw ddiddordeb corfforaethol na chymunedol yn yr adeiladau.

Dywedodd y Cynghorydd Tyssul Evans, sy'n cynrychioli ward Llangynderyn sydd yn cynnwys Ysgol Y Fro: “Yn anffodus, rydym fel awdurdod lleol yn ddibynnol ar gyllid gan y llywodraeth ganolog ac mae toriadau wedi bod. 

"Ac yn anffodus mae nifer y disgyblion yn yr ysgolion hyn wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd.

“Rydym yn wynebu realiti. Rhaid i ni gymryd camau. Rhaid i ni fyw o fewn ein modd. Mae'n drist, wrth gwrs ei fod o.”

Niferoedd disgyblion

Mae gan Ysgol Llansteffan le i 62 o ddisgyblion ond dim ond wyth oedd ganddi gan gynnwys un o oedran meithrin pan gafodd ei hasesu y llynedd. 

Mae'n costio £18,545 y disgybl i'w haddysgu, yn ôl adroddiad y pwyllgor - mwy na thair gwaith y cyfartaledd gwladol o £5,480.

Roedd 30 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2021 a'r disgwyl yw y bydd y nifer yn codi i 18 ymhen pum mlynedd. 

Roedd gan Ysgol Y Fro 15 o ddisgyblion ym mis Ionawr eleni a chapasiti o 41. 

Cafodd ei rhoi mewn mesurau arbennig eleni yn dilyn arolygiad gan Estyn. 

Y cynllun yw i ddisgyblion drosglwyddo i Ysgol Y Dderwen.

Yn y cyfamser, roedd gan Ysgol Meidrim 31 o ddisgyblion ym mis Ionawr, gyda chapasiti o 54. 

Fel Ysgol Y Fro mae hefyd mewn mesurau arbennig. 

Byddai disgyblion yn symud i Ysgol Griffith Jones pe bai'n cau.

Roedd gan Ysgol Pontiets 24 o ddisgyblion ym mis Ionawr a lle i 85. Bedair blynedd yn ôl, roedd 41 o bobl ifanc y ysgol. 

Ysgol Pontiets yw'r unig un o'r pedair sydd dan fygythiad sydd â gwarged cyllidebol ond dywedodd adroddiad y cyngor fod ganddi "orwariant sylweddol yn ystod y flwyddyn" ac roedd yn debygol o symud i ddiffyg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.