Plentyn wedi ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Llanrwst

Llanrwst (wochit)

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i blentyn gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Llanrwst.

Cafodd swyddogion glywed am y digwyddiad ychydig cyn 17.20 bnawn dydd Gwener.

Roedd y gwrthdrawiad ger y bont yn y dref ar Stryd y Bont, rhwng plentyn a fan Ford Transit Custom wen.

Aeth y gwasanaethau brys gan gynnwys Ambiwlans Awyr i leoliad y ddamwain ac fe gafodd y ffordd ei chau.

Cafodd y plentyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau difrifol.

Mae'r A470 drwy'r dref yn parhau ar gau i ganiatáu i swyddogion gynnal ymholiadau.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Katie Davies o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae ein hymchwiliad i achos y gwrthdrawiad wedi dechrau.

“Rwy'n apelio at unrhyw un a welodd y digwyddiad sydd heb siarad â ni eto, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

“Rwyf hefyd yn gofyn i unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd Stryd y Bont tua amser y digwyddiad gyda lluniau dashcam i gysylltu cyn gynted â phosibl.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu trwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C157970.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.