S4C yn dod i setliad ariannol mewn anghydfod cyfreithiol â Sian Doyle

S4C a Sian Doyle

Mae S4C wedi dod i setliad cyfreithiol gyda Siân Doyle, cyn brif weithredwr y darlledwr.

Dywedodd S4C mewn datganiad ddydd Gwener bod y setliad yn dod â holl achosion cyfreithiol Sian Doyle yn erbyn S4C a Rhodri Williams, cyn-gadeirydd y sianel, i ben.

Nid yw manylion union faint y setliad wedi ei gyhoeddi ac mae "wedi’i gyrraedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd" meddai S4C.

Mae Newyddion S4C yn deall fod y setliad yn cau pen y mwdwl ar achos cyflogaeth yn erbyn y darlledwr gan Sian Doyle, yn ogystal â'r achos cyfreithiol yn eu herbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C mewn datganiad: "Mae’n anorfod y byddai parhau â’r prosesau cyfreithiol wedi golygu amser, cost, a straen sylweddol i bawb dan sylw. 

"Mae’r partïon yn falch o fod wedi datrys eu gwahaniaethau ac o fod wedi dod â’r mater i ben.

"Yn dilyn y mater hwn, cynhaliodd S4C adolygiad llywodraethu annibynnol ac mae eisoes wedi cyflwyno Cod Diwylliant newydd a chamau, ymysg mesurau eraill, i gefnogi Awdurdod Annibynnol Safonau’r Diwydiannau Creadigol (CIISA) er mwyn sicrhau bod gwerthoedd S4C yn cael eu cynnal ar a thu hwnt i’r sgrin.

"Ni fydd S4C yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn."

'Symud ymlaen'

Mewn datganiad a anfonwyd at raglen Newyddion S4C, dywedodd gŵr Siân Doyle, Rob, eu bod nhw “wrth ein bodd” gyda’r setliad.

Roedd yn “datrys pob problem rhyngom, yn osgoi achosion llys hirfaith a chost ychwanegol ddiangen i’r trethdalwr — tra hefyd yn caniatáu datrysiad cyflymach a’r cyfle i ddod â'r mater i ben fel y gallwn symud ymlaen â’n bywydau".

Dywedodd hefyd fod ei wraig “eisoes wedi gwneud cyfraniad personol sylweddol i elusen sy’n ymroddedig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd yn y gweithle".

Diswyddo

Fe gafodd Sian Doyle ei diswyddo o’i swydd yn brif weithredwr S4C ym mis Tachwedd 2023 wedi honiadau o "ddiwylliant o fwlio" o fewn S4C.

Cafodd Sioned Wiliam ei phenodi fel prif weithredwr dros dro i’r sianel wedi ymadawiad Sian Doyle.

Fe gafodd Geraint Evans ei benodi yn olynydd parhaol iddi ar 12 Rhagfyr y llynedd.

Ym mis Chwefror eleni daeth i’r amlwg bod Sian Doyle wedi cyflwyno achos o niwed personol yn erbyn S4C yn yr Uchel Lys.

Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd cyfreithiwr Ms Doyle bryd hynny iddi ddioddef "cyfnod cwbl eithriadol ac anaddas o gam-driniaeth" a oedd wedi "niweidio ei hiechyd a'i lles yn ddifrifol" tra yn brifweithredwr.

Y cefndir

Wedi i undeb llafur Bectu gwyno am "ddiwylliant o fwlio" o fewn i S4C, cyhoeddodd y cyn-gadeirydd Rhodri Williams ym mis Mai 2023 y byddai ymchwiliad annibynnol yn ymchwilio i'r honiadau.

Penodwyd cwmni cyfreithiol Capital Law i ymgymryd a'r gwaith, gyda 92 o bobl yn rhoi tystiolaeth am yr awyrgylch gwaith yn S4C.

Yn ôl yr adroddiad, bu i ddeg o bobl lefain wrth roi eu tystiolaeth, gydag 11 yn dweud i weithio yn S4C fod "yn niweidiol i'w hiechyd".

Cafodd rhai eu dyfynnu yn dweud i Sian Doyle yn uniongyrchol niweidio eu hiechyd.

Dywedodd un: "Roedd y Prif Weithredwr wedi fy rhoi mewn sefyllfa gas iawn, llawer o staff eraill hefyd, roeddwn yn ymwybodol o hynny...roedd fy ffrindiau a fy nheulu yn poeni llawer am fy iechyd meddwl ar y pryd."

"Roeddwn i wedi dod yn ddagreuol iawn. Allwn i ddim cysgu."

Honodd gweithiwr arall iddyn nhw ddioddef "digwyddiad iechyd sylweddol" wedi "sgwrs fywiog" gyda Ms Doyle, gyda honiad i'r Prif Weithredwr ddweud y byddai'n cael gwared ar "o leiaf 50" o bobl oedd "ddim yn werth poeni amdanynt."

Dywedodd Ms Doyle ar y pryd: "Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu a'i ddarparu gan y Cadeirydd felly dyw hi'n ddim syndod, o 92 o bobl oedd yn rhan o'r ymchwiliad, i'r adroddiad ganolbwyntio ar farn lleiafrif bach.

"Chefais i ddim rhybudd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw, dw'i heb gael cynnig cyfle i ymateb gan S4C ac fe ddarllenais i'r adroddiad gyntaf yn y cyfryngau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.