Achos Nathan Gill: Un ‘afal drwg’ medd Nigel Farage

Llun: Yui Mok/PA
Nathan Gill

Mae arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage wedi dweud mai un “afal drwg” oedd cyn arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill.

Plediodd Nathan Gill, a fu’n arweinydd Reform yng Nghymru am gyfnod byr yn 2021 ac a adawodd y blaid yn fuan wedyn, yn euog yn yr Old Bailey fis Medi i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo.

Wrth ymweld ag etholaeth Caerffili ddydd Gwener cyn isetholiad yno mewn pythefnos, dywedodd Nigel Farage ei fod wedi ei “arswydo” o glywed am ei gyfaddefiadau. 

“Gall unrhyw blaid wleidyddol ddod o hyd i bob math o bobl ofnadwy yn eu mysg,” meddai.

“Mae achos Gill yn arbennig o syfrdanol oherwydd roeddwn i'n ei adnabod fel Cristion duwiol, person oedd yn byw bywyd dilychwin a gonest.

“Felly, rydw i wedi fy synnu'n fawr. Ond wyddoch chi, roedd o’n gyfnod gwahanol.

“Fi yw'r unig un [yn Reform] oedd yn ei adnabod mewn gwirionedd, yn mynd yn ôl yn bell.”

Image
Nigel Farage a Llyr Powell
Nigel Farage ag ymgeisydd Reform yng Nghaerffili, Llŷr Powell

Honnir i Mr Gill, 52, o Ynys Môn, wneud datganiadau yn Senedd Ewrop, mewn erthyglau barn ac ar wasanaethau newyddion a oedd yn “gefnogol i naratif penodol” a fyddai “er budd i Rwsia ynghylch digwyddiadau yn Wcráin”.

Digwyddodd y troseddau rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.

Roedd yn arweinydd Reform UK Cymru o fis Mawrth i fis Mai 2021.

Fe ychwanegodd Nigel Farage: “Mae gan bob plaid wleidyddol afal drwg; mewn gwirionedd, mae llawer o deuluoedd yn gorffen gydag afal drwg. Mae'r pethau hyn yn digwydd.

“Nid yw'n lleihau difrifoldeb y peth… ond mae yn y gorffennol.

“Ni allwch chi byth, byth warantu 100% bod pawb rydych chi'n cwrdd â nhw yn eich bywyd, rydych chi'n ysgwyd llaw â nhw yn y dafarn, yn berson da.

“Yr hyn allwch chi ei wneud yw, wyddoch chi, gwneud popeth o fewn eich gallu trwy wirio a phopeth arall, i wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi pobl safonol, weddus gerbron y cyhoedd, ac mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i’w wneud.”

Daw hyn wrth i’r is-etholiad yng Nghaerffili nesáu, gyda’r diwrnod pleidleisio ar 23 Hydref. 

Yr ymgeiswyr a gadarnhawyd yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.