Rhun ap Iorwerth yn 'siomedig' gyda diffyg mynediad y gwrthbleidiau at y gwasanaeth sifil cyn yr etholiad

Y Byd yn ei Le
Rhun ap Iorwerth

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn "siomedig" nad yw'r Prif Weinidog, Eluned Morgan wedi caniatáu mynediad at y gwasanaeth sifil i’r gwrthbleidiau cyn yr etholiad. 

Wrth siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei bod yn bwysig bod gweision sifil yn cael "paratoi ar gyfer y posibilrwydd o newid llywodraeth."

Fis diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan y Ceidwadwyr, cadarnhaodd y Prif Weinidog "nad oes unrhyw drafodaethau mynediad wedi'u rhoi eto."

Ychwanegodd fod "y meini prawf" y byddai’r gwrthbleidiau yn cael mynediad ar eu cyfer heb  i'w benderfynu.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y blaid wedi gofyn am fynediad ers rhai misoedd, a'i bod yn "siomedig nad yw'r Prif Weinidog yn barod i'r broses honno ddechrau."

“Mae'n bwysig iawn dwi'n meddwl bod y broses honno'n gallu digwydd er mwyn i weision sifil allu paratoi am newid posib mewn llywodraeth - mi fyddwn ni'n parhau i wthio ar i hynny ddigwydd mor fuan â phosib,” meddai Mr ap Iorwerth. 

Pan ofynnwyd a oedd yn rhwystr i'w paratoadau polisi cyn yr etholiad, dywedodd ei fod yn “broses sydd yn digwydd ym mhob gwlad cyn etholiad ac mae angen iddo fod yn digwydd dros amser estynedig ac mi ddylan ni fod yn gallu dechrau ar y broses honno yn fuan iawn rŵan - mae Cymru angen hynny - nid Plaid Cymru angen hynny - ma'n llywodraethant ni angen hynny.” 

Yn ôl y Sefydliad ar gyfer y Llywodraeth, mae trafodaethau mynediad yn San Steffan rhwng y gwasanaeth sifil a'r gwrthbleidiau fel arfer yn dechrau 12-16 mis cyn etholiad. Cynhelir etholiad nesaf y Senedd ymhen saith mis.

Dywedodd Yr Athro Richard Wyn Jones ar raglen Y Byd yn ei Le ei bod “yn bwysig iawn bod y gwasanaeth sifil yn gallu paratoi am newid, a bod y gwleidyddion sy’n dod mewn i swyddi newydd yn gallu paratoi. Yr arfer dda ydy’ch bod chi’n cael blwyddyn dda o flaen llaw - dyna sydd fel arfer yn digwydd. A phan mae Llafur ar hyn o bryd yn drydydd yn yr arolygon barn, mae’n ymddangos mymryn bach yn blentynaidd.”

Gofynnodd Y Byd yn ei Le hefyd i Reform UK a oedd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am drafodaethau mynediad gyda'r gwasanaeth sifil cyn Etholiad y Senedd. Ni wnaeth ymateb yn uniongyrchol i'r cwestiwn ond dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru, “Mae Reform yn paratoi ar gyfer llywodraeth yng Nghymru ac ar draws y DU.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "Mae trafodaethau mynediad yn rhan hir sefydlog o'r broses cyn-etholiad. Bydd y Prif Weinidog yn penderfynu pryd y gellir cynnal trafodaethau mynediad maes o law."

Gofynnwyd i Mr ap Iorwerth hefyd am bryderon y gallai Llywodraeth Cymru fethu â phasio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf heb gefnogaeth gan wrthblaid. 

Pe bai Llywodraeth Cymru'n methu â phasio'i chyllideb,  fyddai’n golygu y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i chyfyngu i 75% o’i chyfanswm, gan effeithio ar redeg gwasanaethau o lywodraeth leol i’r Senedd ei hun.

"Dwi'm yn meddwl bod unrhyw un sy'n dymuno gweld cyllideb ddim yn cael ei phasio - mae'r goblygiadau o hynny'n digwydd yn amlwg yn bellgyrhaeddol iawn - fydda neb yn dymuno gweld hynny'n digwydd wrth reswm. Cyllideb y Llywodraeth Lafur ydy hon a dwi'n cymryd bod ganddyn nhw strategaeth mewn lle i sicrhau ei bod hi'n cael ei phasio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.