'Mwy na 200,000 o alwadau' i wasanaeth iechyd meddwl brys

Iechyd meddwl

Mae mwy na 200,000 o alwadau i wasanaeth iechyd meddwl brys wedi cael eu gwneud ers ei lansio yn ôl Llywodraeth Cymru. 

Fe gafodd y gwasanaeth cenedlaethol 111, pwyso 2, ei lansio ledled Cymru ym mis Rhagfyr 2022, ac mae'n darparu cymorth ar unwaith i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl. 

Dywed y Llywodraeth ei bod wedi ymdrin â 200,900 o alwadau hyd yn hyn.

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, y thema eleni yw rhoi sylw i fynediad at wasanaethau yn ystod trychinebau ac argyfyngau. 

Daw hyn wrth i elusen Childline ddweud mai gorbryder oedd y prif bryder iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc pan yn ceisio cael cymorth gan y gwasanaeth.

Fe wnaeth y gwasanaeth ddarparu 356 o sesiynau cwnsela yn ymwneud â gorbryder yng Nghymru'r llynedd.

Fe ddywedodd un ferch 14 oed o Gymru wrth Childline: "Dwi'n treulio llawer o amser yn esgus bod yn iawn ar y tu allan a chuddio sut dw i'n teimlo.

"Roedd eleni yn un straen ar ôl y llall...sut ydw i fod i ymdopi gyda hynny i gyd?"

'Cymorth ar gael bob amser'

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Childline Shaun Friel: "Mae miloedd o blant yn estyn allan i ni oherwydd eu bod nhw'n cael trafferthion gyda'u hiechyd meddwl, yn benodol gyda gorbryder.

"Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, rydym eisiau i bob person ifanc i wybod ei bod hi'n iawn i beidio bod yn iawn, a bod yna cymorth ar gael bob amser."

Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2, yn cysylltu'r rhai sy'n galw yn uniongyrchol â gweithwyr iechyd meddwl yn eu hardal ac yn cynnig cymorth yr un diwrnod heb atgyfeiriad. 

Mae'r mwyafrif o alwadau yn cael eu gwneud ar ddyddiau Llun a Mawrth, ac mae'r galw mwyaf yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr, yn ôl y Llywodraeth. 

Pobl rhwng 25 a 34 oed yw'r grwpiau oedran mwyaf cyffredin i ddefnyddio'r gwasanaeth, ac yna pobl 35 i 44 oed a 45 i 54 oed.

'Ymyrryd yn gynnar ac atal'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Mae cael y gwasanaeth hwn ar gael ddydd a nos, bob dydd o'r flwyddyn, yn dangos pa mor bwysig yw cymorth iechyd meddwl ar unwaith i'n cymunedau.

"Mae angen i wasanaethau fel y rhain fod ar gael cyn gynted â phosibl, gan eu bod yn gallu helpu i atal problemau iechyd meddwl rhag dirywio a gwaethygu."

Ychwanegodd Ciara Rogers, cyfarwyddwr y rhaglen genedlaethol ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru: "Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2 yn chwarae rhan allweddol o ran ymyrryd yn gynnar ac atal. 

"Mae'n rhan hanfodol o wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.