Tata Steel: Tariffau newydd yr Undeb Ewropeaidd yn cael ‘effaith sylweddol’

ITV Cymru
Port Talbot / Wikimedia Commons.png

Mae Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel yn y DU wedi dweud y byddai tariffau newydd gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael “effaith sylweddol” ar y busnes.

Bwriad y Comisiwn Ewropeaidd yw gosod tariffau o 50% ar ddur, sef dwbl y lefel bresennol o 25%. 

Mae Cymdeithas Fasnach Dur y DU wedi dweud ei fod yn bosib mai dyma'r "argyfwng mwyaf mae diwydiant dur y DU wedi wynebu erioed".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n "bryderus iawn" ynglŷn ag effaith y tariffau yng Nghymru. Mae gweithfeydd dur Port Talbot yn eiddo i Tata Steel.

Wrth siarad ag ITV Cymru, dywedodd Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK, bod bron i draean o'r hyn maen nhw'n ei gynhyrchu yn cael ei allforio i'r UE.

"Y gwir amdani yw bod hwn yn dariff enfawr, sy'n golygu ei fod yn anodd bod yn gystadleuol yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

"Mae hwn yn mynd i effeithio ar fusnes heddiw ac rwy'n gobeithio, o ystyried y pryderon sydd gennym ni, y bydd rhai datrysiadau yn dod i'r amlwg."

Ychwanegodd: "O ran ffwrnais drydan [Port Talbot], mae'r prosiect hwnnw ar y trywydd iawn. Rydym yn edrych i'w gyflawni fel y cynlluniwyd erbyn diwedd 2027."

Ond mae undebau wedi disgrifio'r newyddion fel “y diwedd o bosibl ar wneud dur yn y DU”.

Cyhoeddodd Undeb Llafur GMB ddatganiad a ddywedodd: “Mae'r tariffau hyn yn ergyd enfawr i ddiwydiant dur y DU gan mai'r UE yw ein prif farchnad allforio."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y diwydiant gwneud dur yn “rhan sylfaenol o ddyfodol ein cenedl”.

“Rydym yn falch o’n diwydiant gwneud dur yng Nghymru ac mae’n rhan sylfaenol o ddyfodol ein cenedl, a byddwn yn parhau i gefnogi’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant dur ym mhob ffordd y gallwn,” medden nhw.

Caeodd Tata y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot y llynedd, gyda'r cwmni'n adrodd eu bod yn colli £1m bob diwrnod.

Bydd Tata yn adeiladu ffwrnais arc drydan gwerth £1.25 biliwn ar y safle, a fydd yn caniatáu i ddur gael ei gynhyrchu gyda llai o allyriadau carbon deuocsid.

Rhoddodd Cyngor Castell-Nedd Port Talbot ganiatâd cynllunio i'r ffwrnais arc drydan ym mis Chwefror, ac mae disgwyl iddi fod yn weithredol erbyn dechrau 2028.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.