Cymru Premier JD: Hwlffordd yn herio'r Bala
10/10/2025Bydd Y Bala yn wynebu taith i Sir Benfro ddydd Gwener i herio Hwlffordd yn y Cymru Premier JD.
Dyma gipolwg ar unig gêm y Cymru Premier JD nos Wener.
Hwlffordd (11eg) v Y Bala (6ed) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl colli chwech o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf mae Hwlffordd wedi syrthio i safleoedd y cwymp.
Mae’r Bala ar rediad hesb hefyd gan i dîm Steve Fisher golli eu tair gêm ddiwethaf gan sgorio dim ond unwaith (cic o’r smotyn).
Methodd Y Bala ag ennill dim un o’u pedair gornest yn erbyn Hwlffordd y tymor diwethaf gyda’r Adar Gleision yn ennill ddwywaith a’r ddwy gêm arall yn gorffen yn ddi-sgôr.
A byddai ddim yn syndod pe bae’r gêm hon yn gorffen yn ddi-sgôr hefyd gan mae dim ond Llanelli (7) sydd wedi sgorio llai o goliau cynghrair na Hwlffordd (11) a’r Bala (10) y tymor hwn.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌❌❌✅❌
Y Bala: ➖✅❌❌❌