Cymru yn colli yn erbyn Lloegr yn Wembley
Mae Cymru wedi colli o 3-0 yn erbyn Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley nos Iau.
Mae'r sylw bellach yn troi at y gêm fawr yn erbyn Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd nos Lun.
Fe deithiodd o gwmpas 7,000 o'r Wal Goch i Wembley ar gyfer y gêm yn erbyn yr hen elyn, gyda'r cefnogwyr yn bloeddio Hen Wlad Fy Nhadau cyn y gêm.
Y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd oedd yng Nghwpan y Byd Qatar yn 2022, gyda Lloegr yn curo 3-0.
Roedd Kieffer Moore, Ethan Ampadu, Harry Wilson, Brennan Johnson a David Brooks i gyd ymysg y chwaraewyr oedd yn dechrau i Gymru nos Iau.
Hanner cyntaf
Wedi ychydig dros ddau funud o chwarae, fe gafodd Cymru y dechrau gwaethaf gyda mynydd i'w ddringo wedi gôl gyntaf Morgan Rogers dros ei wlad.
Lloegr oedd yn rheoli'r meddiant fel y disgwyl wrth i'r hanner cyntaf fynd yn ei flaen, gyda Chymru yn gorfod amddiffyn yn ddyfn yn eu hanner eu hunain.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ychydig wedi 10 munud, gydag Ollie Watkins yn dyblu mantais Lloegr.
Sgoriodd Bukayo Saka wedi 20 munud gyda gôl arbennig yng nghornel uchaf y rhwyd, gyda Chymru bellach ar ei hôl hi o 3-0.
Roedd y noson hir yn parhau i Gymru wrth i dîm Craig Bellamy chael hi'n anodd i gael gafael ar y bêl wrth i'r hanner gyntaf dynnu at ei derfyn.
Roedd Cymru yn gweld eu cyfle yn eiliadau olaf yr hanner, gyda chyfnod bygythiol a chyfle i gael meddiant, ond fe orffennodd yr hanner cyntaf gyda sgôr o 3-0 i Loegr.
Ail hanner
Fe benderfynodd Craig Bellamy i gadw'r un 11 chwaraewr ar y cae ar gyfer yr ail hanner i Gymru, tra y daeth ymosodwr Barcelona Marcus Rashford ymlaen yn lle Ollie Watkins i Loegr.
Fe gafodd Cymru gyfle i sgorio wedi 55 munud o chwarae, gyda David Brooks yn ergydio ac yn gorfodi arbediad gan Jordan Pickford.
Llwyddodd Kieffer Moore i fynd am gôl wedi i'r bel ei gyrraedd yn dilyn arbediad Pickford, ond fe beniodd dros y trawst.
Gyda'r tîm cartref yn dal eu mantais o dair gôl wedi 60 munud, fe wnaeth Cymru eilyddio pedwar chwaraewr.
Ben Davies, Harry Wilson, Neco Williams ac Ethan Ampadu oedd y chwaraewyr yn gadael y cae, gyda gêm nos Lun yn flaenllaw ym meddwl Craig Bellamy bellach.
Chris Mepham, Ronan Kpakio, Josh Sheehan a Jordan James oedd y rhai a ddaeth ymlaen yn eu lle.
Fe gafodd Mepham gyfle i ergydio gyda pheniad, gan orfodi Pickford i arbed ac atal Cymru rhag sgorio.
Fe gafodd Cymru symudiad da arall gyda Brooks yn croesi at yr eilydd diweddaraf, Mark Harris, a beniodd dros y trawst, gyda Chymru yn dangos cymeriad wrth i'r ail hanner fynd yn ei flaen.
Parhau yn 3-0 oedd hanes y gêm ar ddiwedd y 90 munud, gyda pherfformiad gwell i Gymru yn yr ail hanner a'r Wal Goch yn canu tan y diwedd.
Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg mewn gêm dyngedfennol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.