Cyngor Sir Penfro yn cytuno i ostwng premiwm treth cyngor ar ail gartrefi
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cytuno i ostwng y premiwm treth cyngor sydd yn cael ei dalu gan berchnogion ail gartrefi – a hynny o un bleidlais yn unig.
Mae’r cyngor wedi cytuno i ostwng y dreth o 150% i 125%, a hynny ar ôl i ymgais i leihau’r dreth i gyfradd 100% gael ei drechu, yng nghyfarfod y cyngor ddydd Iau.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey, pe byddai’r cynnig am bremiwm 100% wedi’i gymeradwyo, byddai wedi golygu bwlch cyllidebol o £2.8 miliwn.
Mae premiwm o 100% yn golygu talu dwbl y swm arferol o dreth y cyngor, ond mae'r premiwm hefyd yn cael ei ychwanegu i'r dreth ar gyfer plismona a chynghorau cymuned a thref.
Nod y premiwm yw sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio fel cartrefi a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Ym mis Hydref 2024, fe bleidleisiodd y Cyngor dros leihau'r dreth ychwanegol o 200% i 150%.
Roedd pwyllgor treth Cyngor Sir Penfro wedi awgrymu lleihau'r premiwm i 100%, tra bod aelodau'r cabinet a phwyllgor craffu yn ffafrio cadw'r premiwm ar 150%.
Cyn y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Mark Carter gynnig gwelliant i’r cynnig 150%, gan awgrymu gostwng y premiwm i 100%.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd Mr Harvey: “Y gwir amdani yw, os caiff y gwelliant hwn ei gymeradwyo, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i £2.8m arall, naill ai toriadau neu drwy gynyddu'r dreth gyngor gan y swm hwnnw.
“Byddai'n well gen i fod yn gofalu am y rhan fwyaf o dalwyr treth y cyngor yn Sir Benfro yn hytrach na chefnogi'r gwelliant 100% hwn.”
Fe ddywedodd y Cynghorydd Phil Kidney pe bai'r cynnig am bremiwm 100% yn methu, y byddai'n cynnig gostyngiad i 125%.
Cafodd cynnig y Cynghorydd Carter am bremiwm 100% ei drechu, gyda 21 pleidlais o blaid, 29 yn erbyn, a dau ymataliad.
Yna, fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio dros welliant y Cynghorydd Kidney, gyda 26 yn pleidleisio o blaid a 25 yn erbyn.
Fe wnaeth aelodau hefyd gefnogi’n unfrydol i gadw’r gyfradd eiddo gwag ar y lefel bresennol.
Dywedwyd yn y cyfarfod bod y gostyngiad o 150% i 125% ym mhremiwm treth yn cyfateb i ddiffyg cyllido o tua £1.4m i’r awdurdod.