Pont y Borth i ailagor yn ystod y dydd o fore Gwener ymlaen

Pont Menai

Bydd Pont y Borth yn ailagor yn rhannol fore Gwener ar ôl iddi gael ei chau'r penwythnos diwethaf ar gyngor diogelwch gan beirianwyr.

Bydd y bont yn ail-agor am 07.00 fore Gwener i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn unig.

Bydd y bont ar gau yn llwyr dros nos, rhwng 19:00 a 07:00 , a hynny saith diwrnod yr wythnos. Bydd gwaith ac archwiliadau pellach yn digwydd tra bydd y bont ar gau.

Pan fydd y bont ar agor, fe fydd terfyn pwysau mewn grym, gyda cherbydau'n pwyso o dan dair tunnell yn unig gyda'r hawl i'w chroesi.

Yn ogystal, bydd mesurau rheoli traffig ac un llif o draffig oddi ar yr ynys yn y bore (07:00 o'r gloch - 13:00 o'r gloch - Ynys Môn i Fangor) ac i'r ynys yn y prynhawn (13:00 o'r gloch - 19:00 o'r gloch - Bangor i Ynys Môn).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni geisio datrys y mater brys hwn."

Wrth gyrraedd y bont, bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r droedffordd bwrpasol. 

Bydd cerddwyr yn defnyddio troedffordd ar wahân. Bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu defnyddio'r bont dros nos. Bydd trefniadau mynediad brys ar waith ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.

Tra bo'r bont ar agor, bydd camau gorfodi ar waith i sicrhau bod defnyddwyr yn cadw at y terfyn pwysau 3 thunnell. 

Yn ôl y Llywodraeth, bydd peidio â chydymffurfio yn arwain at gamau erlyn gan yr heddlu a bydd yn arwain at gyfnodau eraill o gau'r bont er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n croesi.

"Bydd gwaith yn digwydd ar yr un pryd i wneud yr atgyweiriadau angenrheidiol i'r bolltau." meddai'r llefarydd.

"Rydym yn gweithio cyn gynted â phosibl i gael gwared ar y terfyn 3 thunnell a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar amserlen amcangyfrifedig pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.