Nifer troseddau casineb â chymhelliant crefyddol yn 'uwch nag erioed'

Heddlu

Mae troseddau casineb crefyddol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, yn ôl ffigyrau newydd.

Cofnodwyd 7,164 o droseddau o'r fath gan heddlu ar draws y ddwy wlad – ac eithrio Heddlu'r Metropolitan – yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, roedd cynnydd o 3% o'i gymharu â 6,973 yn y 12 mis blaenorol. 

Dyma oedd y cyfanswm blynyddol uchaf o'r troseddau hyn a gofnodwyd, meddai'r Swyddfa Gartref.

Yng Nghymru, roedd cynnydd yng nghyfanswm y troseddau yn ardaloedd Heddlu'r Gogledd, Heddlu'r De a Heddlu Gwent, gyda gostyngiad yn ardal Heddlu Dyfed-Powys yn unig.

Daw'r ffigyrau wythnos yn union ar ôl ymosodiad synagog Manceinion.

Yn sgil y digwyddiad hwnnw, lle bu farw dau berson ac anafwyd eraill, dywedodd un Imam fod “llanw cynyddol o gasineb crefyddol yn ein gwlad” ac fe fynnodd na ellir ei anwybyddu.

'Ei wynebu gyda'n gilydd'

Dywedodd Imam Qari Asim, cyd-gadeirydd Rhwydwaith Mwslimiaid Prydain: “Boed yn Islamoffobia, gwrth-Semitiaeth neu unrhyw fath o ragfarn, rhaid inni ei wynebu gyda’n gilydd, gydag undod a dewrder, nid distawrwydd.”

Fe wnaeth y Swyddfa Gartref rybuddio, oherwydd newid yn y system cofnodi troseddau a ddefnyddir gan Heddlu Metropolitan, heddlu mwyaf Prydain, nad oes modd cymharu’r ffigurau’n uniongyrchol ac felly roedd wedi eithrio data’r heddlu hwn wrth edrych ar dueddiadau o flwyddyn i flwyddyn.

Heb gynnwys y Met, roedd troseddau casineb a dargedwyd at Fwslemiaid i fyny bron i un rhan o bump, o 2,690 o droseddau a gofnodwyd yn y 12 mis hyd at fis Mawrth y llynedd, i 3,199 o droseddau yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025.

'Cynnydd clir'

Dywedodd y Swyddfa Gartref fod “cynnydd clir yn y troseddau hyn ym mis Awst 2024, sy’n cyd-daro â llofruddiaethau Southport ar 29 Gorffennaf a’r anhrefn dilynol ar draws sawl tref a dinas yn Lloegr”.

Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol (CST), sy'n monitro gwrth-Semitiaeth yn y DU, gofnodi 1,521 o ddigwyddiadau gwrth-Semitaidd ledled y DU yn hanner cyntaf 2025.

Mae troseddau casineb hiliol yn parhau i gyfrif am y rhan fwyaf o'r troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu (71%).

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos gostyngiadau mewn troseddau casineb yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol – i lawr 2% i 18,702 o 19,127 a throseddau casineb yn erbyn pobl anabl a ostyngodd 8% o 11,131 i 10,224.

Bu gostyngiad hefyd o 11% mewn troseddau casineb trawsryweddol o 4,258 i 3,809, yr ail ostyngiad blynyddol yn olynol.

Yn gyffredinol, roedd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 115,990 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025 – cynnydd o 2% o’i gymharu â 113,166 yn ystod y 12 mis blaenorol.

Rhestr lawn o droseddau casineb

Dyma restr lawn o nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru yn 2024/25, wedi'u dadansoddi yn ôl heddlu.

Mae'r ffigyrau wedi cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Gartref.

Mae'r rhestr wedi'i rhannu'n dair adran: cyfanswm y troseddau; troseddau lle'r oedd crefydd yn ffactor ysgogol; a throseddau lle'r oedd hil yn ffactor ysgogol.

​​Ym mhob adran mae'r wybodaeth yn darllen, o'r chwith i'r dde: enw'r heddlu; nifer y troseddau yn 2024/25; newid ar 2023/24; nifer (mewn cromfachau) y troseddau yn 2023/24.

1) Cyfanswm y troseddau:

Gogledd Cymru 1,373; +275 (1,098)

De Cymru 2,868; +67 (2,801)

Gwent 1,575; +139 (1,436)

Dyfed-Powys 397; -197 (594)

2) Troseddau lle'r oedd crefydd yn ffactor:

Gogledd Cymru 109; +50 (59)

De Cymru 260; +68 (192)

Gwent 64; +26 (38)

Dyfed-Powys 18; -39 (57)

3) Troseddau lle'r oedd hil yn ffactor:

Gogledd Cymru 793; +92 (701)

De Cymru 1,831; +120 (1,711)

Gwent 1,003; +130 (873)

Dyfed-Powys 284; -63 (347)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.