Corwen: Bachgen wedi taflu dŵr berwedig dros ofalwr
Mae llys ieuenctid wedi clywed ddydd Iau fod bachgen 15 oed wedi berwi tegell a’i daflu dros ben dynes oedd yn gofalu amdano yng Nghorwen.
Fe wnaeth y gofalwr ddioddef llosgiadau poenus, pothelli a chreithiau dros 9% o’i chorff o ganlyniad i’r ymosodiad ym mis Awst.
Fe wnaeth y bachgen gyfaddef i achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad yn y gwrandawiad yn y llys ieuenctid yn Llandudno.
Clywodd cadeirydd y llys, David Subacchi ei fod hefyd wedi dwyn o siop ym mis Gorffennaf.
Mewn fideo a gafodd ei chwarae yn y llys dywedodd y dioddefwr Rachel Jones ei bod hi’n dal mewn poen.
Roedd hi wedi ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Whiston, Glannau Merswy, i gael triniaeth.
"Mae'n fy ngwneud yn flin oherwydd ei fod wedi'i wneud yn fwriadol,” meddai.
“Doeddwn i ddim wedi dweud wrtho na allai wneud dim. Gofynnais iddo olchi llestri yn gyntaf, woc, ei blât a'i gyllell a'i fforc.
“Roedd o’n bum munud o waith."
Dywedodd yr erlynydd James Ashton bod y bachgen wedi dweud wrth staff gofal tua wythnos cyn yr ymosodiad nad oedd am i'r dioddefwr edrych ar ei ôl.
Roedd wedi datgan y byddai'n gwneud "beth bynnag oedd ei angen i wneud i bobl wrando”.
Dywedodd y cyfreithiwr oedd yn amddiffyn y bachgen, Craig Hutchinson, ei fod yn ddigwyddiad difrifol ond ei fod yn fachgen oedd yn “agored i niwed”.
Gohiriwyd y dedfrydu er mwyn i'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid baratoi adroddiad ar gyfer y llys.
Cafodd y bachgen ei gadw mewn llety diogel.
Llun: Llys Ynadon Llandudno sy'n cynnwys y Llys Ieuenctid.