Heddlu’n cipio dros £100k o gyffuriau yng Nghaernarfon a Bangor

Heddlu’n cipio dros £100k o gyffuriau yng Nghaernarfon a Bangor

Mae cyffuriau gwerth tua £100,000 wedi eu cipio gan yr heddlu ym Mangor a Chaernarfon.

Cafodd dyn 55 oed a dyn 32 oed eu harestio ac maent wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi gweithredu ar saith gwarant mewn cartrefi ar ôl i swyddogion o'r Tîm Plismona Cymdogaeth gael gwybod am bryderon lleol ynghylch cyffuriau.

Cafodd heroin, madarch hud sych a chanabis eu cipio o'r cartrefi.

Dywedodd y Cwnstabl Scott Jones: “Byddwn yn parhau i dargedu a stopio dosbarthiad cyffuriau sy'n achosi dioddefaint i aelodau'r gymuned.

“Mae tyfu a chyflenwi cyffuriau mewn eiddo preswyl yn cael effaith enfawr ar gymdogion a theuluoedd sy'n byw gerllaw, gan roi eu tai eu hunain mewn mwy o berygl o dân neu oblygiadau iechyd i'w plant. 

“Mae adnabod yr unigolion hyn yn ein galluogi i atal troseddau difrifol ac amddiffyn y rhai sy’n agored i bobl gam-fanteisio arnyn nhw.”

Gall unrhyw un sydd â phryderon ynghylch cyflenwi cyffuriau yn eu hardal roi gwybod i’r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.