Cyfradd cyflyrau iechyd meddwl plant 'wedi dyblu mewn 20 mlynedd'
Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Roedd cyfraddau cyflyrau iechyd meddwl wedi dyblu dros y ddau ddegawd diwethaf, o un ym mhob 10 yn 2004 i un ym mhob pump yn 2023, meddai'r dystiolaeth.
Mae awduron yr ymchwil yn pwysleisio’r angen am "ymyrraeth gynnar, gwaith atal a gweithredu ar y cyd ar draws pob sector."
Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn anawsterau emosiynol fel gorbryder ac iselder, gyda'r tueddiadau wedi dechrau ymhell cyn pandemig Covid-19.
Mae'r canfyddiadau wedi'u cynnwys mewn datganiad ar y cyd newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o bob cwr o'r DU a phobl ifanc o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ffactorau
Y tu ôl i'r cynnydd hwn mewn problemau iechyd meddwl mae nifer o ffactorau gan gynnwys tlodi teuluol, anghydraddoldeb cymdeithasol, pwysau academaidd, anawsterau iechyd meddwl rhieni, a dylanwad technoleg ddigidol.
Mae'r datganiad ar y cyd yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiad cymunedol, perthnasoedd dibynadwy, a chyfleoedd i fod yn greadigol a gwneud gweithgarwch corfforol fel ffactorau sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Llesiant Meddwl Arweiniol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod lefel yr angen yn peri pryder, mae gen i lawer o obaith yn ein gallu i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
"Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Cymru yn rhoi ffocws pwysig ar wella mynediad amserol at wasanaethau a chymorth iechyd meddwl yn ogystal â gwella llesiant cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc.
“Mae angen i ni helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n obeithiol am y dyfodol, i deimlo eu bod wedi’u cysylltu â’u cymunedau a’u bod yn cael eu derbyn ynddynt ac i allu cael mynediad at gymorth cyn gynted â phosibl pan fyddant yn cael trafferth.”
'Buddsoddiad yn ein dyfodol'
Dywedodd yr Athro Stephan Collishaw, o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae gwella llesiant meddyliol pobl ifanc yn hollbwysig o safbwynt moesol a hefyd yn cynrychioli buddsoddiad strategol yn ein dyfodol ar y cyd.
“Pan fyddwn yn meithrin iechyd meddwl, rydym yn datgloi potensial addysgol pobl ifanc, yn cryfhau iechydhirdymor, ac yn cyfoethogi gwead cymdeithasol ein cymunedau.”
Dywedodd Rocío Cifuentes MBE – Comisiynydd Plant Cymru, “Fel Comisiynydd Plant Cymru, rwy’n cymeradwyo’r datganiad hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd hefyd yn adlewyrchu themâu a glywyd drwy ein gwaith ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.”
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael isod i bobl ifanc a'u teuluoedd gyda phroblemau iechyd meddwl:
- GIG 111 (pwyso 2) – i gael mynediad brys at weithiwr gofal iechyd meddwl proffesiynol. Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ym mhob rhan o Gymru.
- Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL Cymru – yn cynnig cymorth emosiynol a chyngor cyfrinachol i unigolion a theuluoedd, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Rhadffôn 0800 132 737 neu anfonwch neges destun gyda’r gair “help” i 81066. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o: www.callhelpline.org.uk