Cwest: Dyn yn cael ei wasgu yn erbyn wal ar Ynys Enlli

Ynys Enlli

Clywodd cwest i farwolaeth taid 63 oed iddo gael ei wasgu yn erbyn wal, wrth iddo geisio rhwystro cerbyd rhag llithro ar Ynys Enlli.  

Roedd Christopher Lamont, o Bridgnorth, Sir Amwythig yn cludo cesys a bagiau ar gyfer ymwelwyr a oedd yn cyrraedd yr ynys, pan ddigwyddodd y drychineb fis Mehefin y llynedd.    

Yn y cwest yng Nghaernarfon, eglurodd ei ferch Jodi Jarvis ei fod yn arfer mwynhau mynd i Gymru i gael hoe.

"Roedd Dad wrth ei fodd yn helpu bobl," meddai. 

Roedd Malcolm Hastings yn aros ar yr ynys. Dywedodd yn y gwrandawiad iddo weld Mr Lamont yn cludo cesys i fythynnod gwyliau ar yr ynys. Gwelodd y cerbyd gyriant pedair olwyn wedi parcio gerllaw a bod neb ynddo, wrth i Mr Lamont gau giat wrth gae. 

Ond eglurodd Mr Hastings fod y cerbyd wedi dechrau llithro yn ôl yn araf, ac i Mr Lamont redeg tuag ato gyda'i ddwylo yn yr awyr fel pe bai yn ceisio rhwystro'r cerbyd. Ond cafodd ei wasgu yn erbyn wal.  

Cafodd yr Ambiwlans Awyr a hofrenyddion gwylwyr y glannau eu hanfon i'r ynys. Ond bu farw Christopher Lamont. 

Dywedodd Colin Evans sy'n cynnal teithiau mewn cwch i Ynys Enlli fod Mr Lamont wedi defnyddio'r cerbyd gyriant pedair olwyn yn aml ac yn "ddyn hoffus." 

Yn ôl uwch grwner y Gogledd Orllewin, Kate Robertson, doedd dim modd dweud a oedd y brêc llaw wedi ei godi. 

Cofnododd reithfarn naratif, gan nodi i Mr Lamont gael ei gaethwio rhwng y cerbyd a'r wal.   

Nododd ei bod yn debygol mai "diffygion" yn y cerbyd arweiniodd at hynny, ond nad oedd hi'n glir pryd y dirywiodd cyflwr y cerbyd.

Dywedodd merch Mr Lamont: " Rwy'n gwybod mai damwain drasig oedd hon. Dydw i ddim yn dymuno i unrhyw un gael ei erlyn."  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.