'Gwirfoddolwyr yn talu am lety i'r digartref'
Mae grŵp cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dweud bod eu staff yn talu o'u pocedi eu hunain i roi llety i fenywod bregus yn gyson.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd cynrychiolwyr BARC (Bridgend Adult Resurce Centre) bod eu gweithwyr wedi talu am lety dros dro i dair menyw fregus dros y mis diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd cyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr bod ganddyn nhw "ddyletswydd...i sicrhau diogelwch a lles pob unigolyn sydd yn defnyddio gwasanaethau a'r staff sydd yn eu darparu nhw" a bod hynny yn "cael ei wneud yn gwbl glir i unrhyw un sydd yn gwneud cais am lety dros dro o ganlyniad i ddigartrefedd."
Yn 65 oed, mae Tina Potter ar hyn o bryd yn byw mewn ystafell gwely a brecwast ym Mhen-y-bont. Staff a chefnogwyr Barc sydd yn talu am yr ystafell honno.
Mae Ms Potter wedi wynebu cyfnodau o ddigartrefedd, ac yn dweud iddi ddioddef ymosodiad rhywiol yn ddiweddar pan yn cysgu mewn pabell yn ardal Porthcawl. Mae'n dweud bod yr ymosodwr wedi ei arestio ac ar fechnïaeth ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi gofyn am ymateb Heddlu'r De.
Wedi hynny, cafodd ei chartrefi gan gyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn hostel. Ond cafodd ei gwahardd wedi digwyddiad yno ac mae nawr yn wynebu dyfodol ansicr ar y stryd.
Dywedodd Rebecca Lloyd, sydd yn gweithio i Barc, ei bod hi'n poeni am ddiogelwch Ms Potter. Wrth siarad wythnos ddiwethaf, dywedodd: "Roedd hi'n -4 [gradd celsiws] neithiwr...dwi'n meddwl petai Tina ar y strydoedd neithiwr, yn y tywydd yna, a gyda chyflyrau Tina - mae ganddi gyflyrau corfforol a iechyd meddwl - dwi'n credu y byddai pethau wedi bod yn drychinebus y bore 'ma. Hynny yw - yn farwol.
Dywedodd i Ms Potter fynd i ysbyty ddydd Llun diwethaf, a bod staff a chefnogwyr Barc yn ariannu llety i Ms Potter ers dydd Mawrth.
Er gwaethaf gwaharddiad diweddar Ms Potter o hostel wedi "digwyddiad", dywedodd ei bod yn credu y dylai "rhyw gorff statudol" fod yn canfod llety iddi.
"Dwi'n credu y gallai opsiynau eraill fod ar gael, fel llety gyda goruchwyliaeth neu lety gyda chefnogaeth, ar gyfer pensiynwraig sydd, er o bosibl yn anwadal, ddim hyd y gwelaf i yn peri risg corfforol mawr i unrhyw un."
'Ofn'
Dywedodd Tina Potter wrth Newyddion S4C bod arni ofn mynd yn ôl i'r strydoedd, ond ei bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth mae wedi ei derbyn gan Barc.
Wedi iddi gael ei chwestiynu am amgylchiadau ei gwaharddiad o'r hostel, cyfaddefodd iddi daflu gwrthrych ar gyd-letywr gan dorri ffenest. Mae'n gwadu ymosod yn gorfforol ar unrhyw un.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn flin am y digwyddiad, gan ddweud ei bod yn ymateb i wawdio gan eraill mewn ymgais i "amddiffyn ei hun".
Mewn datganiad, dywedodd cyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Tra'n bod ni'n methu trafod manylion yr achos, mae hwn yn fater cymhleth, ac mae'n bwysig nodi nad yw'r holl fanylion wedi eu gwneud yn gyhoeddus."
"Dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol bydden ni'n gofyn i rywun adael llety dros dro, ac hyd yn oed bryd hynny, rydyn ni'n cysyllu a phartneriaid ar eu rhan i geisio dod o hyd i gefnogaeth amgen.
"Mae gweithrediadau o'r fath yn gam olaf a dim ond yn cael eu defnyddio yn y digwyddiadau mwyaf difrifol. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ein llety i'r digartref yn parhau yn ddiogel i bawb, ac rydyn ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif."
Mae Aelod Senedd Plaid Cymru Luke Fletcher wedi ymwneud ag achos Ms Potter ac yn dweud ei fod hefyd wedi cefnogi eraill sydd wedi bod yn cysgu ar strydoedd ardal Pen-y-bont dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd: "Fe ddylai gwasanaethau fod ar gael i sicrhau bod darpariaeth amgen ar gael i Tina.
"Allwn ni ddim cael sefyllfa lle mae rhywun bregus yn byw ar y stryd...yng nghanol gaeaf.
"Mae achos Tina yn un o nifer achosion sydd angen sylw nifer o bartneriaid...er mwyn sicrhau bod system mewn lle sydd yn gweithio. Achos ar hyn o bryd, dyw e ddim yn gweithio," meddai Mr Fletcher.
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw.
